Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Parc Gwledig Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025

0
671

Video: https://www.youtube.com/watch?v=FIZ8U2WOZ7Q

Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Orendy Parc Margam ddydd Llun 24 Ebrill 2023, cefnogodd gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot wahoddiad i’r Urdd gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 ym Mharc Margam.

Yn ôl Cyfarwyddwr Celfyddydau ac Eisteddfod yr Urdd, Siân Eirian:

“Ar ran yr Urdd, rwy’n falch iawn o gyhoeddi mai Parc Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025. Roedd yn wych gweld cefnogaeth unfrydol a brwd gan gynrychiolwyr o bob cwr o’r sir mewn cyfarfod cyhoeddus heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd yn ôl i’r ardal.

“Daeth Eisteddfod yr Urdd i Barc Margam yn 2003 y tro diwethaf. Fel sefydliad rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal unwaith eto yn 2025 a hoffem ddiolch i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am ei gefnogaeth ragorol.”

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alun Llewelyn: “Dyma glod enfawr i Barc Gwledig Margam a Chastell-nedd Port Talbot i gyd, ac mae’n bleidlais enfawr o hyder yn yr ardal hon ac yn y parc a’r modd proffesiynol y mae’n cael ei reoli.

“Edrychwn ymlaen at groesawu’r llu ymwelwyr a fydd yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2025, a hoffem annog pawb sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot i fanteisio ar y ffaith y bydd yr ŵyl fendigedig hon ar garreg ein drws.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant: ‘Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl deithiol fwyaf Ewrop ar gyfer ieuenctid, a bydd yn ddathliad o’n hiaith Gymraeg a’i diwylliant. Bydd hefyd yn hybu economi leol Castell-nedd Port Talbot drwy groesawu miloedd o ymwelwyr i’n bwrdeistref sirol.”

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru, gan ddenu 75,000 o gystadleuwyr a thros gan mil o ymwelwyr bob blwyddyn. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam rhwng 26 – 31 Mai 2025.

Cyn hynny, bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Llanymddyfri o 29 Mai – 3 Mehefin eleni, a Fferm Mathrafal ger Meifod ar gyfer Eisteddfod Maldwyn yn 2024.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle