Elusen y GIG yn prynu setiau teledu ar gyfer ward plant Ysbyty Bronglais

0
208
Uchod: Yn y llun gydag un o'r setiau teledu newydd mae'r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Sian Davies

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu dau deledu i gleifion ar ward plant Angharad yn Ysbyty Bronglais.

Mae’r setiau teledu wedi disodli rhai diffygiol yn y ddwy ystafell ochr ar y ward.

Dywedodd Bethan Hughes, Rheolwr y Ward: “Mae cael setiau teledu wrth erchwyn y gwely yn wrthdyniad da i blant sy’n sĆ¢l.”

“Maent yn rhan hanfodol o ddarparu profiad sy’n canolbwyntio ar y teulu pan fydd cleifion mewn ystafelloedd ochr, gan ein helpu i wella amgylchedd y ward.”

Yn y llun gydag un o’r setiau teledu newydd mae’r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Sian Davies.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle