
Bydd tri llwybr tymhorol syân amlyguâr gorau o fyd natur gwlyptir y DU yn rhedeg yn WWT Llanelli o 18 Mai tan Chwefror 2024 fel rhan o bartneriaeth rhwng y darlunydd enwog Syr Quentin Blake aâr Wildfowl & Wetlands Trust.
Trwy gydol y bartneriaeth, âDrawn to Water: Quentin Blake at WWTâ, bydd Canolfan Gwlyptir Llanelli yn cynnal tri llwybr tymhorol. Bydd pob tymor yn gweld map llwybr casgladwy newydd yn llawn darluniau llai adnabyddus o natur ddyfrllyd gan Quentin Blake i helpu i ysbrydoli ymwelwyr i weld rhyfeddod natur y gwlyptir mewn ffordd wahanol.

Bydd pob un oâr llwybrau, Gwanwyn/Haf, Hydref, a Gaeaf, yn amlyguâr natur anhygoel syân cyrraedd bob tymor, gan arddangos bywyd newydd, dĹľr pefriog ac adar yn ymweld, gan helpu pawb i brofi byd natur mewn ffyrdd newydd, annisgwyl trwy waith Quentin Blake.
Bydd y llwybrau hyn yn rhedeg ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithgareddau celf a darlunio i ysbrydoli pob oed a gallu, gan helpu pawb i brofi byd natur mewn ffyrdd newydd, annisgwyl.
Ymhlith uchafbwyntiauâr gwanwyn aâr haf mae dolydd blodau gwyllt yn llawn lliw a gloĂżnnod byw yn dawnsio; perffaith ar gyfer dychmygu eich hun fel un o gymeriadau diofal Quentin yn mwynhau byd natur, yn rhydd o ofidiau bywyd bob dydd.
Wrth sĂ´n am y bartneriaeth dywedodd Quentin Blake: âRwyân falch iawn o gael rhannu fy narluniau gyda safleoedd WWT aâu hymwelwyr trwy brofiad Drawn to Water. Roedd y
prosiect hwn yn apelio ataf oherwydd mae gennyf ddiddordeb gydol oes mewn darlunio bywyd gwyllt y gwlyptir, yn enwedig adar.
âNi allaf esbonio pam yn union ond efallai ei fod oherwydd fel ni, maen nhw ar ddwy goes ac mae ganddyn nhw ystumiau llawn mynegiant. Maeâr darluniau a welwch yn dod o fy archif personol fy hun, ac anaml y gwelwyd llawer ohonynt yn gyhoeddus oâr blaen.

âTrwy Drawn to Water rwyân gobeithio y bydd gweld fy ngwaith celf mewn mannau lle maeâr creaduriaid hyn yn ffynnu yn caniatĂĄu i gynulleidfaoedd newydd fwynhau bywyd gwyllt y gwlyptir cymaint â mi, efallaiân ysgogi ychydig o bobl i godi beiro, pensil neu hyd yn oed cwilsyn.â
Dywedodd Jessica Thompson, Rheolwr Marchnata WWT Llanelli:
âMae darluniau Quentin Blake yn apelio at bobl o bob oed, ac mae ei gariad at natur gwlyptir yn disgleirio oâi gymeriadau byw.

âPwy all wrthsefyll gwenu pan welant bersonoliaethau mawr ei greadigaethau digamsyniol?
âMaeâr llwybrau hardd hyn yn gwahodd ein hymwelwyr i ymgolli yn y gwlyptiroedd ac archwilio rhannau newydd oâr warchodfa natur fel erioed oâr blaen.
âDilynwch gymeriadau diofal Quentin syân caru natur a gwnewch eich cysylltiadau ystyrlon eich hun â bywyd gwyllt y gwlyptir ym mhob tymor. Waeth beth fo’ch oedran, fe welwch rywbeth arbennig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle