Bob mis mae miloedd o bobl yn cael gofal yn y gymuned ac mewn mannau heblaw adrannau brys, diolch i raglen i leihau’r pwysau ar ofal brys ac argyfwng yng Nghymru.
Flwyddyn ers lansio Rhaglen Chwe Nod Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng (y Rhaglen ‘Chwe Nod’), mae data diweddaraf y GIG yn dangos bod 10,000 o bobl bob mis yn defnyddio Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys, bod 4,500 o gleifion y mis yn cael eu gweld mewn gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod a bod tua 60,000 yn defnyddio’r gwasanaeth 111 i gael cyngor brys.
Lansiwyd y rhaglen ym mis Ebrill 2022, wedi’i chefnogi â chyllid o £25 miliwn yn flynyddol, ac mae wedi gwneud cynnydd cynnar dros y flwyddyn ddiwethaf.
Y prif flaenoriaethau yn ystod y flwyddyn gyntaf oedd:
- cynyddu mynediad i wasanaethau Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys er mwyn lleihau’r pwysau ar Adrannau Achosion Brys ac ar feddygfeydd teulu yn ystod eu horiau agor;
- cynyddu mynediad at Wasanaethau Argyfwng yr Un Diwrnod fel bod pobl yn gallu cael diagnosis a thriniaethau a dychwelyd adref ar yr un diwrnod, heb orfod aros yn yr ysbyty.
Ers dechrau’r Rhaglen Chwe Nod, sefydlwyd 13 Canolfan Gofal Sylfaenol Brys ledled Cymru. Mae tua 10,000 o bobl y mis yn troi atynt bellach, ac nid oes angen iddynt gael apwyntiad gyda meddyg teulu na throi at adran frys.
Yn ogystal, mae 12 gwasanaeth Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod yn gweithredu yng Nghymru ac yn trin 4,500 o bobl y mis. Mae data’r GIG yn dangos bod tua 75% o’r cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn yn cael y gofal sydd ei angen arnynt ac yn dychwelyd adref heb orfod aros mewn ysbytai, gan ryddhau gwelyau ynddynt.
Mae llwyddiannau cynnar eraill y rhaglen yn cynnwys llwybr argyfwng iechyd meddwl newydd GIG 111 Cymru, sy’n helpu 8 person ym mhob 10 i osgoi gorfod defnyddio gwasanaeth gofal brys neu argyfwng; technoleg ymgynghori fideo 999 newydd i’w gwneud yn bosibl cynnal asesiadau clinigol o bell; a gostyngiad mewn arosiadau hir yn yr ysbyty ar gyfer pobl hŷn, fregus.
Bydd ail flwyddyn y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi byrddau iechyd i wneud y canlynol:
- Darparu gwasanaethau saith diwrnod, a chynyddu capasiti gwasanaethau gofal sylfaenol brys y tu allan i oriau arferol, fel rhan o symud tuag at fodel gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos;
- Lleihau’n ddiogel nifer y cleifion 999 sy’n cael eu trosglwyddo i Adrannau Achosion Brys;
- Cynyddu ymhellach nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod ac yn cael eu rhyddhau i fynd adref ar yr un diwrnod;
- Lleihau nifer y cleifion sy’n profi arhosiad dros 7 diwrnod a thros 21 diwrnod yn yr ysbyty.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Rydyn ni wedi gweld galw uwch nag erioed ar ein system gofal brys ac argyfwng yng Nghymru y gaeaf hwn. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod nifer y galwadau ambiwlans coch 93% yn uwch ym mis Mawrth 2023 nag ym mis Mawrth 2019. Heb ein rhaglen Chwe Nod a’r ffaith ein bod ni wedi darparu mwy na 600 o welyau ychwanegol yn y gymuned, gallai pethau wedi bod yn llawer gwaeth y gaeaf hwn.
“Er gwaethaf y pwysau ychwanegol, mae’r perfformiad mewn adrannau brys mawr yng Nghymru wedi bod yn well na’r perfformiad yn Lloegr yn ystod y saith mis diwethaf ac wedi aros yn sefydlog, yn wahanol i bob rhan arall o’r DU.
“Ers lansio’r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, rydyn ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran cyfeirio pobl at y gwasanaethau sy’n briodol i’w hanghenion, lleihau nifer y cleifion sy’n cael eu trosglwyddo i’r ysbyty mewn ambiwlans ac o ran helpu mwy o bobl i gael mynediad i ofal brys yn eu cymunedau lleol. Mae data’r GIG hefyd yn dangos y bu gostyngiad yn nifer y bobl sy’n treulio cyfnodau hir mewn gwelyau ysbytai, a dylai hynny gefnogi canlyniadau gwell.
“Does dim ateb rhwydd i oresgyn rhai o’r heriau a’r pwysau mae gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ledled y DU a gorllewin Ewrop yn eu hwynebu. Ond rwy’n disgwyl i’r cynnydd hwn barhau ac i’r cynlluniau gael mwy o effaith ar ganlyniadau a phrofiadau cleifion ar draws y system yn ystod ail flwyddyn y rhaglen.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle