Gwnaeth GTACGC fynychu Pride Abertawe ddydd Sadwrn, Ebrill 29ain, ac am ddiwrnod arbennig!
Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan, yn dod at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth a dangos cymaint o gefnogaeth i’r gymuned LHDT+.
Roedd yna amrywiaeth eang o adloniant ymlaen yn ystod y dydd, o’r orymdaith Pride, cerddorion, breninesau drag a llawer mwy. Roedd y diwrnod yn llawn lliw, hwyl a chwerthin ac roedd yr awyrgylch yn un arbennig o’r dechrau i’r diwedd.
Bu’n fraint i GTACGC fod yn rhan o’r diwrnod, gan ddarparu llawer o wybodaeth diogelwch i’r torfeydd, a chawsom gyfle i arddangos ein hinjan tân lliwgar yn ogystal â Sbarc, masgot y Gwasanaeth yn dod allan i chwarae hefyd!
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Craig Flannery: “Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran er mwyn gwneud y diwrnod yn llwyddiant. Bu’n profiad arbennig i gwrdd â phobl o bob cefndir a chroesawu’r gymuned LDHT+.”
Fel gwasanaeth, rydym wedi ymrwymo i adnabod, deall a chael gwared â phob rhwystr sy’n atal mynediad at wasanaethau, gwybodaeth a chyflogaeth. Rydym yn cefnogi aelodau o’n cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i oresgyn anfantais, trwy hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth.
Edrychwn ymlaen at ddathlu Pride Abertawe yn 2024.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle