System CCTV Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ‘mynd yn fyw’ 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn

0
705
CCTV- Neath town centre

O ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, mae’i system rhwydwaith Camerâu Cylch Cyfyng (CCTV) wedi cael ei gyfnewid yn llwyr am ateb modern, hi-tech, sy’n cynnwys canolfan reoli ganolog flaengar.

Bydd y moderneiddiad hwn yn rhoi cyfle i’r Cyngor, Heddlu De Cymru, a sefydliadau brys eraill fel y gwasanaethau tân ac ambiwlans lleol allu ymateb i broblemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sydyn ac effeithiol.

Cafodd y rhwydwaith o gamerâu’i chyfnewid yn llwyr am ddarpariaeth ddigidol diffiniad uchel llawn, gan ddefnyddio rhwydweithiau darlledu sydd wedi lleihau’r costau gweithredu’n sylweddol.

Gyda’r buddsoddiad yn y gwasanaeth, a chostau is gweithredu’r dechnoleg, gallodd y cyngor hefyd adolygu model gweithredu’r gwasanaeth CCTV. O ganlyniad, mae’r cyngor yn falch o allu cadarnhau dychwelyd y gwasanaeth i fod yn monitro’n weithredol 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, o’i gymharu â’r gwasanaeth mwy cyfyng a weithredodd ar ôl blynyddoedd o gyni.

Mae’r camerâu, a leolir ar draws canol trefi Castell-nedd a Phort Talbot, ar lan y môr Aberafan, ac yn Llansawel, yn defnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar, gan roi ystod o fanteision i’r cyngor, gan gynnwys atal troseddu, lleihau costau diogelwch, rhwystro fandaliaeth a darparu deunydd clir, diffiniad uchel ar gyfer ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn llys barn. 

Gyda’r system newydd, roedd modd i’r cyngor allu ymestyn ble oedd yn cael ei weld, a bellach mae Maes Parcio Aml-lawr Castell-nedd dan ei olygon, ac mae cyfleoedd eraill hefyd yn cael eu hystyried. Mae gan ystafell reoli newydd y CCTV wal newydd o sgriniau a ddyluniwyd yn bwrpasol, gan alluogi i’r rheolwyr Ymateb Brys CCTV fonitro’n well. 

Yn ôl Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alun Llewelyn: “Mae cryfhau trefniadau diogelwch y gymuned a gwella llecynnau cyhoeddus wedi bod yn flaenoriaeth o’r dechrau i’n Clymblaid yr Enfys.

“Rwyf wrth fy modd y bydd ein system CCTV fwy modern, ynghyd â dychwelyd i fonitro  24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, yn arwain at welliannau yn rhychwant y CCTV, a fydd yn chwarae rhan mewn cadw pobl yn ddiogel ac yn helpu i atal a chanfod troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

“Mae cael system CCTV effeithiol yn rhan bwysig o gadw pobl yn ddiogel, ac er y gall adnabod pobl sydd wedi troseddu, bydd, yn fwy pwysig, yn gweithio fel rhwystr, gan ddanto pobl rhag iddyn nhw droseddu yn lle cyntaf.”

Talwyd am y system CCTV newydd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a bydd yn cael ei fonitro gan aelodau o staff y cyngor yn eu hystafell reoli ddiwygiedig. Defnyddiwyd y system eisoes i wrthsefyll gweithgarwch troseddol fel lladrata, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymosodiadau, ac mae wedi helpu gydag ymchwiliadau i losgi bwriadol.

Ymysg manteision allweddol y system ddiwygiedig mae:

  • Gwell diogelwch ynghanol trefi
  • Gwella canfyddiad y cyhoedd o ddiogelwch mewn ardaloedd ynghanol trefi
  • Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Darparu ymateb wedi’i dargedu a chymorth i ymgyrchoedd yr heddlu wrth iddyn nhw daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ynghanol trefi.
  • Cefnogaeth i ddefnyddwyr system radio Storenet, gan helpu busnesau drwy gyfrwng CCTV ble bo’r angen (er enghraifft i daclo dwyn o siopau ac amlygu darpar broblemau cyn iddyn nhw ddigwydd).
  • Y gallu i gynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliadau

Yn ogystal â chynnig costau gweithredu is, bydd y system CCTV newydd yn galluogi’r cyngor i archwilio ffynhonnell newydd o incwm a chyfleoedd i dorri costau, gan gynnwys monitro larymau ar gyfer adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor ac ysgolion. 

Mae’r system hefyd yn ei gwneud hi’n bosib ffrydio CCTV yn fyw o adeiladau dinesig gan gynorthwyo gyda’r gwaith o fonitro eiddo – gyda’r nod o leihau costau diogelwch.  

Welsh – https://www.youtube.com/watch?v=cBr01F3cb2A


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle