Cynhaliwyd Gwobrau Rhoddwyr Organau 2023 y mis diwethaf, i anrhydeddu unigolion sydd wedi rhoi rhodd amhrisiadwy o fywyd trwy roi organau.

0
220

Mae’r gwobrau’n cael eu cynnal ledled y DU ac yn cael eu rhedeg gan y St John Priories rhanbarthol ar y cyd â’u partner Tîm Rhoi Organau, sy’n rhan o Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG. Cynhaliwyd Gwobrau Rhoddwyr Organau Cymru yn Cornerstone yng Nghaerdydd i anrhydeddu rhoddwyr o bob rhan o Gymru a’r gororau yn Lloegr.

Mae St John Ambulance Cymru wedi bod yn rhedeg y gwobrau gyda Thîm Rhoi Organau De Cymru am y deng mlynedd diwethaf.

Crëwyd y gwobrau i gydnabod y cyfraniad anhunanol y mae rhoddwyr organau a’u teuluoedd wedi’i wneud i helpu eraill. Rhoddir y wobr, ar ffurf pin a dyfyniad, i deulu’r rhoddwr, i anrhydeddu eu hanwylyd.

Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro St John Ambulance Cymru, Andy Jones, oedd yn cynnal y seremoni a Syr Paul Williams, OBE, KStJ, DL, Prior Cymru ynghyd â Mrs Morfudd Meredith, CStJ Cyflwynodd Arglwydd Raglaw EM De Morgannwg y gwobrau i deuluoedd 29 pobl.

Siaradodd aelodau o Dîm Rhoi Organau De Cymru a’r Parchedig Jason Tugwell yn y seremoni hefyd, gyda cherddi teimladwy a theyrngedau i goffau’r 29 o unigolion.

Dywedodd Syr Paul Williams, Prior Cymru, “Rwyf wedi cael y fraint o gymryd rhan ers dechrau’r gwobrau yn 2013, a chynorthwyo i gyflwyno’r gwobrau fel Prior i Gymru ers 2017”.

“Mae wedi bod yn brofiad dwys a theimladwy i gyfarfod a diolch i deuluoedd, partneriaid a ffrindiau rhoddwyr sydd wedi gorfod gwneud y penderfyniadau anoddaf ar yr adegau mwyaf anodd yn eu bywydau. Tra yng nghanol anobaith mae rhoi gobaith o iechyd da neu fywyd i eraill yn weithred mor anhunanol o haelioni.”

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd rhoi organau a gwaith gwych holl staff Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG”

Cafodd y teuluoedd eu hailuno ag aelodau o’r Tîm Rhoi Organau, yr oedd rhai ohonynt wedi helpu’r teuluoedd yn bersonol drwy broses rhoi organau eu hanwyliaid. 

Arwyddair Urdd Sant Ioan yw Pro Fide Pro Utilitate Hominum sy’n trosi i ‘Er Ffydd ac yng Ngwasanaeth y Ddynoliaeth’. Mae’r Gwobrau Rhoddwyr Organau yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi gwneud y gwasanaeth eithaf i ddynoliaeth, trwy roi rhodd gobaith i eraill.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am Urdd Sant Ioan a gwaith elusen cymorth cyntaf mwyaf blaenllaw Cymru, St John Ambulance Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle