Mae gwasanaeth newydd wedi’i lansio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer y rhai sydd wedi cael diagnosis o ganser tebygol ond nid yw’n glir yn union pa fath o ganser ydyw, a ble y dechreuodd y canser.
Bydd y gwasanaeth Malaenedd o Darddiad Anhysbys (MUO) yn caniatáu i gleifion â diagnosis canser eilaidd gael ymchwiliadau pellach i geisio canfod ffynhonnell y canser a derbyn y driniaeth a’r gofal mwyaf priodol.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd BIP Hywel Dda yn cynnig apwyntiadau i gleifion o fewn pythefnos i gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu a chyswllt gan y tîm MUO o fewn 48 awr i glaf sydd eisoes yn yr ysbyty.
Dywedodd yr Athro Ken Woodhouse, Arweinydd Clinigol: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a phwysig iawn i Hywel Dda. Gall cleifion y canfyddir bod ganddynt ganser posibl, ond nid o safle sylfaenol amlwg, fod yn gymhleth iawn i’w datrys.”
“Bydd y gwasanaeth newydd hwn, a ddarperir mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn Abertawe, yn sicrhau eu bod yn cael eu hasesu mewn modd amserol fel y gellir gwneud unrhyw brofion pellach yn gyflym, a dechrau cynllun triniaeth cyn gynted â phosibl.”
Wedi’i lleoli yn Uned Ddydd Haematoleg ac Oncoleg Sir Benfro yn Ysbyty Llwynhelyg, bydd cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio gan eu Meddyg Teulu yn cael eu hasesu a’u hadolygu gan feddyg a bydd nyrs glinigol arbenigol oncoleg wedi’i neilltuo fel eu gweithiwr allweddol i helpu i gydlynu eu gofal a’u cefnogi drwy eu taith.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle