Gosod isadeiledd newydd yn Aberdaugleddau i wella profiad ymwelwyr

0
719
Pennawd llun: Matt Lilley, Rheolwr Ystadau a Chyfleusterau, gyda'r rheiliau newydd wedi'u gosod o amgylch Glannau Aberdaugleddau a Phwynt Hakin.

Mae gwaith diogelwch ac amgylcheddol newydd wedi’i gwblhau yn Aberdaugleddau gyda’r nod o wella profiad ymwelwyr a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gwnaeth Porthladd Aberdaugleddau gais llwyddiannus i Gronfa Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru ar gyfer 431 metr o reiliau newydd yn yr ardal o amgylch y giatiau clo ac ymlaen i Bwynt Hakin, yn ogystal â gosod bin porthladd 1,000 litr yn y marina.

Bellach wedi’u gosod, mae’r rheiliau yn ei gwneud hi’n fwy diogel i  bobl gerdded o amgylch Glannau Aberdaugleddau, yn enwedig teuluoedd â phlant ifanc a’r rhai sy’n defnyddio cymhorthion anabledd. Byddant hefyd yn helpu i atal pobl rhag neidio’n beryglus i’r dŵr a physgota yn y pwll clo – y ddau yn weithgareddau troseddol o dan is-ddeddfau’r Porthladd.

Mae’r bin porthladd 1,000 litr yn cynorthwyo i gael gwared ar sbwriel morol sydd yn ei dro yn lleihau faint o wastraff sy’n mynd i mewn i Ddyfrffordd Aberdaugleddau a allai, o bosibl beryglu bywyd gwyllt. Mae’r cyfleuster newydd yn gwella lefelau effeithlonrwydd i’r tîm yng Nglannau Aberdaugleddau wrth i weithgarwch casglu sbwriel â llaw ostwng o ddwywaith y dydd i ddwywaith yr wythnos, gan ryddhau eu hamser i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ymwelwyr a marina rhagorol.

Mae Matt Lilley, Rheolwr Ystadau a Chyfleusterau, yn falch o’r gosodiadau newydd. Dywedodd “Mae’r rheiliau newydd yn gaffaeliad mawr i’r ardal gan eu bod yn galluogi ein holl drigolion, deiliaid angorfa ac ymwelwyr i fwynhau eu hamgylchfyd gyda’r sicrwydd ychwanegol o rwystr corfforol rhyngddyn nhw a’r dŵr. Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw hefyd yn rhwystr cryf i’r rhai sy’n mynnu neidio i’r dŵr, rhywbeth rydyn ni’n treulio llawer o amser yn addysgu pobl ifanc amdano gan ei fod mor beryglus mewn porthladd mor brysur.”

Ychwanegodd “Mae’r bin porthladd yn  adnodd  ardderchog i reoli sbwriel arnofiol a bydd yn gwella golwg y dŵr ond hefyd ansawdd yr amgylchedd morol  yma.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle