Y Cyngor i ddechrau gweithio tuag at lefel arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn

0
204
Covenant

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi aelodau o’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Ar ôl ennill y lefel efydd ym mis Chwefror 2022, mae Cabinet y Cyngor bellach wedi mynegi ei fwriad i gyrraedd lefel arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (DERS).

Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn annog cyflogwyr i gefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, milwyr wrth gefn neu filwyr sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u dibynyddion ac mae’n cyd-fynd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Llofnododd y Cynghorydd Philip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Gyfamod y Lluoedd Arfog ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Gorffennaf 2022, sy’n addewid i Gymuned y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd y byddan nhw’n cael parch a thegwch.

Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn cwmpasu Gwobrau Efydd, Arian ac Aur i gyflogwyr sy’n addo, yn dangos neu’n eiriolwr i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog, ac yn cynnal yr egwyddorion sef:

  • Rhwymedigaethau unigryw, ac aberthau a wneir gan, y lluoedd arfog.
  • Ei bod yn ddymunol dileu’r anfanteision sy’n wynebu’r milwyr sy’n aelodau neu’n gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog.
  • Gall y ddarpariaeth arbennig honno ar gyfer pobl o’r Lluoedd Arfog gael ei chyfiawnhau gan yr effeithiau ar bobl sy’n aelodau, neu’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog (mewn perthynas â’r rhai sydd â chyflyrau meddygol neu anafiadau sy’n gysylltiedig â’r lluoedd arfog a’r rhai sy’n galaru).

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio tuag at fabwysiadu cynllun gwarantu cyfweliad i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog, ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl a hysbysebir.  Mae’r fenter hon yn fesur ychwanegol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Fel Cyngor, rydym yn cydnabod cyfraniad pwysig aelodau o’r lluoedd arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd a’r gwerth y maent yn ei roi i’n cymunedau a’n busnesau.

“Rydym yn falch iawn o gyflogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a cham nesaf yn unig yw’r cam hwn at sicrhau lefel arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn. Rydym yn bwriadu dangos ein cefnogaeth ymhellach oherwydd byddwn ni nawr yn dechrau gweithio tuag at gynnig y cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gymuned y lluoedd arfog sy’n dymuno ymuno â’n gweithlu yn y dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle