‘Sesiwn Codi Sbwriel’ Prifysgol Abertawe i nodi coroni’r Brenin

0
203
Staff with some of the rubbish they collected from the beach at Swansea University's Bay Campus.

Cyfrannodd dwsinau o aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe at sesiwn codi sbwriel leol mewn sawl lleoliad ar 10 Mai fel rhan o The Big Help Out i nodi coroni’r Brenin. 

Codwyd sbwriel ym Mharc Singleton, yn Brynmill, ar draeth Singleton ac ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian. 

Yn ogystal â staff a myfyrwyr, cyfranogodd Llysgennad Clwb yr Elyrch, Lee Trundle, yn y sesiwn ar draeth Singleton. 

Ymunodd disgyblion o Ysgol Gynradd Danygraig yn yr hwyl hefyd. 

Roedd Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe, ar draeth Singleton. Meddai: “Mae’n wych gweld cynifer o’n staff, ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr yma heddiw i ymgysylltu â’r gymuned leol ar y cyd â chynrychiolwyr o’r Elyrch ac Ysgol Gynradd Danygraig, ar gyfer achos mor deilwng, sef gofalu am ein hamgylchedd. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni’n ymrwymedig i greu dyfodol mwy cynaliadwy, ac mae cyfrannu at goroni’r Brenin a ‘The Big Help Out’ gyda digwyddiad fel y ‘Sesiwn Codi Sbwriel’ yn gyfle perffaith i godi ymwybyddiaeth o fod yn fwy ecogyfeillgar. Mae wedi bod yn gyfle ardderchog i wirfoddolwyr newydd a phrofiadol ddod ynghyd â’r gymuned ac roedd yn llawer o hwyl.” 

Staff taking part in the litter pick on the beach at Swansea University’s Bay Campus.

Meddai Lee Trundle: “A minnau’n defnyddio’r traeth yn rheolaidd fy hun, rwy’n meddwl bod hyn yn wych, ac mae’n arbennig o wych cynnwys plant ar yr adeg hon o’u bywydau er mwyn eu haddysgu i werthfawrogi’r amgylchedd, sy’n newyddion ardderchog ar gyfer y dyfodol.” 

Meddai Kathryn Watkins, athrawes o Ysgol Gynradd Danygraig: “Fel ysgol, rydyn ni wedi bod yn ceisio ailgysylltu â’r gymuned ar ôl Covid, ac mae rhywbeth fel hyn yn wych gan ein bod ni am i blant fod yn ddinasyddion gweithredol a gwneud gwahaniaeth yn lleol.” 

Meddai Katryn Kane ac Ellie-Jaye Hoey, disgyblion o Ysgol Gynradd Danygraig: “Hoffen ni gadw’r traeth yn lân er mwyn helpu’r gymuned a helpu’r blaned yn y dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle