Troi’r llanw ar draddodiad parcio ar y traeth i wneud Traeth Mawr yn fwy diogel i bawb

0
203
Capsiwn: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwneud Traeth Mawr yn draeth heb geir i wella diogelwch y cyhoedd a bioamrywiaeth.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhoi diwedd ar barcio ar y traeth yn Nhraeth Mawr ger Trefdraeth, mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch diogelwch ac ar ôl degawdau o niwed i’r amgylchedd naturiol.

Yn ddiweddar, mae Awdurdod y Parc wedi prynu’r tir a oedd yn cael ei ddefnyddio gan bobl i barcio eu cerbydau ar y traeth gan y Newport Links Golf Resort, ar ôl i gyfarfodydd gael eu cynnal i geisio datrys problemau parcio ar y traeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, bydd yr Awdurdod yn cyfyngu mynediad i gerbydau ar y traeth i’r gwasanaethau brys a’r rheini sydd angen mynediad hanfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Er bod newidiadau mawr fel hyn yn gallu bod yn heriol, bydd y cam hwn yn helpu i ddiogelu pobl a’r amgylchedd, gan greu profiad mwy diogel i bawb ar y traeth.

“Mae’r Awdurdod wedi gweithredu ar ôl i’r perchnogion blaenorol ac aelodau o’r cyhoedd godi pryderon ynghylch diogelwch, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn deall ac yn cefnogi’r ymgyrch i wneud Traeth Mawr yn draeth sy’n rhydd o geir.

“Bydd y cam hwn hefyd yn helpu i barhau â’r drafodaeth ynghylch ein heffaith ar yr hinsawdd, ac yn annog pobl i ystyried ai car yw’r ffordd orau o gyrraedd y traeth bob amser.”

Ychwanegodd Chris Noot o Newport Links Golf Resort: “Fe wnaeth y Clwb Golff drefnu cyfarfod gyda Heddlu Dyfed-Powys, Awdurdod y Parc a’n cynghorwyr sir lleol yn 2022, yn dilyn o leiaf ddau ddigwyddiad lle’r oedd gyrwyr anghyfrifol wedi anwybyddu ein staff ac wedi gyrru ar y traeth heb stopio. Ar o leiaf un o’r achlysuron hyn, bu bron i agwedd ddi-hid y gyrrwr achosi damwain yn ymwneud â phlentyn ifanc. 

“Mae’r Clwb Golff yn hynod ddiolchgar i Awdurdod y Parc am gynnig rheoli’r traeth ac am ei gymorth gyda hyn.”

I gefnogi’r newidiadau i’r mannau parcio yn yr ardal, bydd nifer y llefydd parcio i bobl anabl yn y maes parcio cyfagos yn dyblu o 3 i 6. Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn darparu cadair olwyn ar y traeth a fydd ar gael i’w llogi gan Glwb Syrffio Traeth Mawr o ganol mis Mehefin ymlaen.

Bydd bws arfordirol Roced Poppit, sy’n stopio yn Nhraeth Mawr, yn gweithredu ei amserlen ar gyfer yr haf rhwng 30 Mai a 30 Medi. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Penfro gyda chyfraniadau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/traeth-mawr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle