Adnodd dysgu arloesol yn helpu academydd i ennill gwobr addysgu o fri

0
281
CAPTION: Dr Tom Wilkinson gyda'i wobr gan Gymdeithas Imiwnoleg Prydain

Mae’r academydd Tom Wilkinson wedi cael ei anrhydeddu am helpu i ddatblygu ffyrdd o addysgu imiwnoleg a wnaeth ysbrydoli myfyrwyr yn ystod Covid. 

Yn ogystal â chyflwyno imiwnoleg ar draws yr holl flynyddoedd a rhaglenni, roedd ef hefyd yn rhan o’r tĂŽm a greodd set arbennig o adnoddau ar gyfer dysgu o bell. Arweiniodd hyn at gydnabyddiaeth iddo yng ngwobrau cyntaf erioed Cymdeithas Imiwnoleg Prydain (BSI) a chafodd ei enwi’n un o ddau gyd-enillydd y Wobr Rhagoriaeth Addysgu

Gwnaeth Dr Wilkinson , o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyfraniad allweddol at ddatblygu Pecyn Cymorth Addysgu Imiwnoleg Cymru, sef cyfres o adnoddau a luniwyd i sicrhau y gallai myfyrwyr ddysgu’r technolegau imiwnoleg a’r gweithdrefnau arbrofol allweddol hyd yn oed pan nad oedd modd iddynt fynd i’r labordy o ganlyniad i Covid. 

Roedd un o’r adnoddau hyn, cytomedr llif rhithwir, mor llwyddiannus y mae bellach yn elfen barhaol o’r cwrs sydd ar gael i’w mabwysiadu ledled y DU ac Iwerddon mewn sefydliadau eraill. 

Dywedodd Dr Wilkinson, sydd hefyd yn arwain grĹľp microbioleg a chlefydau heintus y Brifysgol, fod ei wobr yn anrhydedd enfawr.  

Meddai: “Rwy’n falch iawn bod y BSI wedi cydnabod pwysigrwydd datblygu deunyddiau efelychu newydd i addysgu imiwnoleg yn well ar lefel israddedig. 

“Yn yr un modd ag unrhyw anrhydedd, rwy’n rhan o dĂŽm a hoffwn i gydnabod cymorth Dr Nigel Francis, o Brifysgol Caerdydd, a Dave Ruckley, ein technolegydd dysgu dawnus yn Abertawe. Yn y dyfodol rydyn ni’n gobeithio mireinio ein hefelychiadau addysgu a gyhoeddwyd y llynedd. 

“Byddai hyn yn cynnwys defnyddio efelychiadau mewn prifysgolion eraill yn y DU, fel y gallwn ni ddysgu ymhellach am eu rĂ´l mewn addysgu israddedigion. 

“Er fy mod i’n mwynhau rhyngweithio â myfyrwyr yn fyw mewn darlithoedd a sesiynau ymarferol, roedd y pandemig yn golygu bod angen i ni ganfod ffyrdd eraill o ennyn brwdfrydedd ac annog dysgu, a bydd yr efelychiadau a’r adnoddau hyn a ysbrydolwyd gan ymchwil yn y labordy yn gymhorthion defnyddiol i gefnogi myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd labordai gwlyb am y tro cyntaf.” 

Dathlodd Gwobrau Imiwnoleg y BSI gyflawniadau anhygoel unigolion a thimau sy’n llywio dyfodol imiwnoleg ar hyn o bryd. Cafodd 11 o enillwyr eu henwi mewn seremoni arbennig. 

Meddai Doug Brown, Prif Weithredwr y BSI: “Rydyn ni wrth ein boddau i gydnabod cyflawniadau’r unigolion eithriadol hyn. Mae pob un ohonyn nhw’n rhoi ei amser a’i arbenigedd i lywio dyfodol imiwnoleg, mewn llawer o achosion y tu hwnt i olwg y cyhoedd. Bydd eu hymdrechion yn sicrhau dyfodol mwy disglair i’n maes.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle