Ymunwch â ni yn y Felodrom ym Mharc Caerfyrddin ddydd Gwener, 19 Mai 2023 o 9.30am ymlaen.
Yn rhan o’r paratoadau ar gyfer ‘Yr Her Fawr’, sy’n cael ei chynnal ar 5 Mehefin 2023, bydd aelodau o dîm Her Fawr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn beicio 100 milltir o amgylch felodrom Caerfyrddin ac maen nhw am wahodd unigolion i ymuno â nhw yn yr her!
Gallwch ddod draw i’w cefnogi nhw neu i gwblhau faint a fynnoch o lapiau. I gymryd rhan, ni fydd angen mwy na beic defnyddiol a helmed arnoch.
Nod aelodau’r tîm yn y pen draw yw codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer tair elusen sy’n agos at eu calonnau:
- Elusen y Diffoddwyr Tân Elusen y Diffoddwyr Tân – Newid Bywydau ein Diffoddwyr Tân Arwrol!
- Cerebral Palsy Cymru Cerebral Palsy Cymru
- 2 Wish 2wish Cefnogaeth pan fydd pobl ifanc yn marw
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno.
Gallwch gyfrannu arian at yr Her Fawr hefyd trwy ymweld â thudalen y tîm ar wefan People’s Fundraising: Codi Arian – LEJOG 2023 (peoplesfundraising.com)
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle