St John Ambulance Cymru yn lansio her elusennol oes

0
267

Mae St John Ambulance Cymru wedi lansio eu her elusennol fwyaf cyffrous eto, Yr Wyddfa (Snowdon) yn y Nos.

Mae prif elusen cymorth cyntaf Cymru yn gweithio gydag RAW Adventures – Climb Snowdon i ddarparu profiad bythgofiadwy i’r rhai sy’n caru her, i gyd i gefnogi gwaith achub bywyd St John Ambulance Cymru mewn cymunedau ledled Cymru.

Nid her elusennol arferol yw her Yr Wyddfa (Snowdon) at Night, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dechrau’r daith gerdded tua 3:30am, gan gyrraedd yr uchafbwynt adeg codiad haul.

Fel un o’r unig 18 Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn y byd, gall cyfranogwyr fwynhau’r cyfle prin i ddianc rhag llygredd golau a chysylltu â byd natur cyn iddynt gyrraedd y copa. Dan arweiniad Arweinwyr Mynydd lleol cymwys, bydd y cyfranogwyr yn cyrraedd y brig o 1085m mewn pryd ar gyfer codiad yr haul. Bydd y daith gerdded yn werth chweil pan fydd unigolion yn mwynhau’r golygfeydd godidog ar draws yr arfordir a gogledd Eryri.

Nid yn unig y bydd unigolion yn creu atgofion parhaol ac yn herio eu hunain yn gorfforol, ond bydd yr holl arian a godir yn helpu St John Ambulance Cymru i gyflwyno sesiynau hyfforddiant cymorth cyntaf am ddim i ysgolion a grwpiau cymunedol, yn ogystal â darparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau allweddol, gan gadw’r cyhoedd yn ddiogel. . Mae arian hefyd yn mynd tuag at raglenni ieuenctid St John Ambulance Cymru, gan ddarparu cenhedlaeth newydd o achubwyr bywyd ifanc i Gymru.

Mae cofrestru ar gyfer yr her yn costio £49 y pen yn unig, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn crys-t, tystysgrif a brecwast dathlu ar ôl yr her St John Ambulance Cymru.

Yr unig beth y mae’r elusen yn ei ofyn yw eich bod yn addo codi isafswm o £195 mewn nawdd. Ar ôl cofrestru, bydd cyfranogwyr yn derbyn eu cynllun hyfforddi, rhestr cit a chyngor ar sut i ddechrau codi arian. Bydd tîm codi arian cyfeillgar St John Ambulance Cymru hefyd wrth law drwy’r amser, i gynnig cymorth a chyngor i’ch helpu i gyrraedd eich nod codi arian.

Ellie Barnes, Cynorthwyydd Codi Arian St John Ambulance Cymru, yw arweinydd y digwyddiad ar gyfer yr her, meddai, “Rydym mor gyffrous am yr her hon gan ei bod yn apelio at gymaint o bobl. Mae nid yn unig yn rhoi boddhad corfforol a meddyliol, ond mae hefyd yn gymaint o hwyl! Bydd y cyfranogwyr yn dod i fondio fel grŵp a gwneud atgofion parhaol gyda’i gilydd, tra’n codi arian at achos gwych.”

Fel ffordd wych o gryfhau bondiau a gwneud atgofion gyda’ch gilydd, beth am ymuno â rhai ffrindiau, teulu neu hyd yn oed cydweithwyr?

Mae’r elusen ar hyn o bryd yn cynnig gostyngiad adar cynnar o 20% i’r rhai sy’n cofrestru erbyn diwedd mis Mai. Felly os hoffech chi gael gwybod mwy, ewch i www.sjacymru.org.uk/cy/event/snowdon-at-night.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle