Ethol y Cynghorydd Louvain Roberts yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir 

0
255
Cadeirydd Cyng. Louvain Roberts - Chair Cllr. Louvain Roberts

Mae’r Cynghorydd Louvain Roberts, yr Aelod dros Ward Glanymôr, wedi derbyn y gadwyn swyddogol heddiw, 24 Mai 2023.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, sef y Cynghorydd Rob Evans, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth i’r Cyngor.

Y Cynghorydd Roberts fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf. Ei chydymaith fydd ei merch, Mrs Vanessa Rees, a’i His-gadeirydd fydd y Cynghorydd Handel Davies, yr Aelod dros Lanymddyfri.

Dywedodd y Cynghorydd Roberts: “Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn i ddod, ac at flwyddyn amrywiol a diddorol.”

Mae’r Cynghorydd Roberts wedi dewis Canolfan Deuluol St Paul’s, Ymatebwyr Cyntaf Llanelli a Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli fel ei helusennau yn ystod ei chyfnod yn y swydd. 

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymhlith dyletswyddau’r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a’u cefnogi.

Mae’r Cynghorydd Roberts wedi bod yn Gynghorydd Sir ers mis Mai 2017 ac yn aelod o Gyngor Tref Llanelli.

Mae’n cynrychioli’r Cyngor Sir yn Ward Glanymôr yn Llanelli, ac mae’n Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, yn rhan o Gyrff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Coedcae ac Ysgol Penrhos, ac yn cynrychioli’r Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, Bwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Teulu, a Rhodd May Price SRN.

Mae’r Cynghorydd Roberts wedi ymddeol o’i swydd flaenorol fel bydwraig ond mae’n ei chadw ei hun yn brysur gyda’i diddordebau mewn gwaith elusennol, darllen a nofio, ac mae’n aelod o’r Grŵp Gwau a Sgwrsio lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle