Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n Defnyddio Hofrennydd Tanau Gwyllt

0
211
Lluniau gan Gomander y Gorsaf, Emyr Jones.

Ddydd Iau, Mai 25ain, gwnaeth criwiau Tregaron, Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth ymateb i danau gwyllt yn Nolgoch, Tregaron.

Dros y tridiau diwethaf, bu nifer o danau gwyllt sylweddol yn yr ardal hon, gyda’r mwyaf yn digwydd ddydd Mercher, Mai 24ain, lle defnyddiwyd saith peiriant mawr, cerbyd pob tir a pheiriant niwl am dros wyth awr i ymladd tân gwyllt mawr o eithin a rhedyn.  Roedd y tân hwn yn beryg i eiddo ac felly bu rhaid gwacáu rhai preswylwyr o’u cartrefi.  Bu’r criwiau hefyd yn gweithio’n ddiflino i atal y tân rhag lledu i blanhigfa goedwigaeth fawr sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Tra bod y tân wedi ei ddiffodd yn llwyr yn ystod ail-archwiliad y bore trannoeth, achosodd y tywydd poeth a’r amodau gwyntog ail-gynnau erbyn y prynhawn.  Ar y cyd â CNC, gofynnodd Comander y Digwyddiad i’r Hofrennydd Tân Gwyllt fod yn bresennol i gynorthwyo criwiau i fynd â’r afael â’r tanau gwyllt sylweddol ar dir heriol.  Cafod y tân ei ddiffodd o fewn dwy awr.

Gwyliwch yr Hofrennydd Tanau Gwyllt yn cael ei defnyddio yma.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am atgoffa’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus dros yr wythnosau nesaf wrth i’r cyfnod o dywydd cynnes a sych barhau.  Yn ystod yr haf, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y bydd tân y byddwch yn ei gynnau’n fwriadol neu’n ddamweiniol yn yr awyr agored yn ymledu’n gyflym dros ben, gan ddinistrio popeth sydd o’i flaen.  Mae gwybodaeth diogelwch ar danau agored ar gael ar wefan y Gwasanaeth

Lluniau gan Gomander y Gorsaf, Emyr Jones.

Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd.  Gallwch roi gwybod am dân bwriadol, a hynny’n ddienw, trwy ffonio Crimestoppers Cymru ar 0800 555111.  Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.  Darllenwch fwy ar ein Hymgyrch Dawns Glaw amlasiantaethol yma.

Mae’r Hofrennydd Tanau Gwyllt yn cael ei ariannu gan CNC, mewn partneriaeth â’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, i gynorthwyo gyda gweithrediadau diffodd tân.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle