Oes gennych chi syniad da a allai helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth Cymru yn ehangach i ddod yn fwy cynaliadwy? 

0
246

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer cyllid newydd lle mae Cyswllt Ffermio yn sicrhau bod £5,000 ar gael i ffermwyr a thyfwyr i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.

Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb o fewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.

Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i’ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i’r afael â phroblemau ‘go iawn’ neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio’n ymarferol ar eich fferm. 

Mae’r cyllid yn agored i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar busnes ffermio neu dyfu yng Nghymru sydd wedi nodi problem neu gyfle lleol neu benodol. Mae’n rhaid i fusnesau fferm gofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Bydd prosiectau addas yn anelu at wella effeithlonrwydd cynhyrchu a phroffidioldeb gan ddiogelu’r amgylchedd trwy gyd-fynd â Chanlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy. 

Gallai prosiectau Cyllid Arbrofi ganolbwyntio ar: gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd, cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu cynnig.

Rhaid gweithredu a chwblhau prosiectau llwyddiannus o fewn yr amserlen a nodir ar gais ac ni fydd y cyllid gan Cyswllt Ffermio yn fwy na £5,000 y prosiect.

Gall ffermwyr a thyfwyr wneud cais drwy lenwi ffurflen gais a fydd yn cael ei hystyried a’i hasesu.

Bydd y ffenest ymgeisio ar agor rhwng y 22ain o Fai hyd nes y 12fed o Fehefin 2023. Bydd ffenestri ymgeisio eraill yn ystod Haf a Hydref 2023. Dim ond yn ystod cyfnod ariannu rhaglen Cyswllt Ffermio y caniateir i bob busnes ymwneud ag un prosiect o dan y Cyllid Arbrofi.

Am fwy o wybodaeth ar feini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle