Ymunwch â ni yn Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri 2023

0
212

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf, Mai 29ain-Mehefin 3ydd 2023.

Dewch i ymweld â’n stondin – rhif 68-69, bydd yna amrywiaeth o wybodaeth a gweithgareddau diogelwch tân ar eich cyfer trwy gydol yr wythnos.  Cewch hefyd y cyfle i sgwrsio gyda’n tîm Diogelwch Cymunedol, cofrestru ar gyfer ymweliad Diogel ac Iach yn ogystal â derbyn cyngor Diogelwch Dŵr, Diogelwch yr Haf a llawer mwy.  Bydd Sbarc, masgot y Gwasanaeth hefyd yna yn ystod yr wythnos!

Ddydd Mawrth, Mai 30ain, byddwn yn lansio StayWiseCymru – gwefan newydd sy’n dod ag adnoddau addysg y gwasanaethau brys a sefydliadau eraill at ei gilydd ac sydd wedi’u dylunio ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru.  Dyma gyfle arbennig i ddysgu mwy am y gwefan newydd sbon hwn a beth sydd ganddo i’w gynnig.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol, Richard Felton:

“Rydym yn falch iawn ac yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn ni, gyda chymorth NFCC a Phartneriaid diogelwch allweddol eraill, yn lansio gwefan StayWiseCymru yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanymddyfri.  Mae gwefan StayWiseCymru yn adnodd ar-lein a gwblhawyd yn ddiweddar sy’n dod â’r gwasanaethau brys a sefydliadau diogelwch eraill at ei gilydd gyda’r nod o rannu eu gwybodaeth addysg benodol.  Mae gwefan StayWiseCymru wedi’i chrynhoi’n dri rhan hygyrch iawn, mae un adran ar gyfer athrawon sydd ag ardal mewngofnodi am ddim, mae’r ail adran ar gyfer y cyhoedd a’r drydedd ar gyfer sefydliadau diogelwch a’r gwasanaethau brys.  Yn lle ceisio dod o hyd i wybodaeth wrth chwilio ar y we, mae’r wefan newydd hon wedi crynhoi’r wybodaeth hyn mewn un man.”

Os byddwch chi’n mynd i Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf ac yn ymweld â’n stondin, rhannwch eich lluniau gyda ni a dilynwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau dyddiol – FacebookInstagram a Twitter.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar y Maes.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle