Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch o galon i’w wirfoddolwyr anhygoel ar Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr 2023.
Cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn ac mae’n gyfle i gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i’n cymunedau ac i ddweud diolch.
Ar draws y bwrdd iechyd, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi cleifion, gwasanaethau ac adrannau ac i wella profiad cleifion yn yr ysbyty.
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Wrth i ni nodi Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr, ar ran y bwrdd iechyd hoffwn fynegi ein gwerthfawrogiad diffuant i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser eu sgiliau, a’u tosturi at eu Gwasanaeth Iechyd yn lleol.
“Mae eich cefnogaeth i gleifion a staff yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, diolch o galon.”
Os oes gennych ddiddordeb, mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael yn y bwrdd iechyd. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddod i wybod am y gwaith sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac mae’n darparu profiad bywyd go iawn o ryngweithio â chleifion ac ymwelwyr.
Gall cymorth gwirfoddol fod yn rhywbeth mor syml â sgwrsio â chlaf neu helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r ward iawn ar adegau ymweld.
Gallech fod yn wirfoddolwr fferyllfa, yn gyfaill, yn gweithio gyda’n trolïau siop neu lyfrgell – neu mewn lleoliad clinigol fel ward plant neu adran damweiniau ac achosion brys.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i hyb gwirfoddoli a phrofiad gwaith y bwrdd iechyd biphdd.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwirfoddolwyr-a-phrofiad-gwaith ffoniwch 07790 978576 neu ebostiwch HDD.FutureWorkforceTeam@wales.nhs.uk
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei brofi. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser, eu sgiliau a’u hegni i gefnogi ein cymunedau.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle