Eisteddfod yr Urdd yn hwb i’r economi leol

0
226
Cwmni Cwyr Cain yn Eisteddfod yr Urdd

Llanymddyfri yw’r lle i fod yr wythnos hon wrth i’r dref gynnal Eisteddfod yr Urdd ar ran Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod yr ŵyl sy’n wythnos o hyd, mae plant, pobl ifanc a theuluoedd o bob rhan o Gymru ar eu ffordd i dref y porthmyn. Mae siopau a busnesau lleol wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer yr ŵyl hir ddisgwyliedig. 

Peter Rees yw perchennog busnes teuluol 5* sydd wedi hen sefydlu yn Llanymddyfri, sef Parc Carafanio a Gwersylla ErwlonWrth siarad cyn Eisteddfod yr Urdd, dywedodd Peter:

“Mae digwyddiadau’n wych ar gyfer y dref ac yn aml yn denu ymwelwyr am y tro cyntaf i’r rhan hon o Sir Gaerfyrddin ac i ni yn Erwlon. Mae hanner tymor y Sulgwyn bob amser yn brysur iawn i’r tîm yma ond mae ychwanegu’r Urdd at y calendr wedi llenwi unrhyw argaeledd sbâr a allai fod gennym. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn mynd yn dda a bod pawb sy’n cymryd rhan yn cael amser mor wych y byddant am ddod yn ôl a chrwydro ychydig yn fwy – mae gennym gymaint i’w gynnig ac mae Llanymddyfri mewn lleoliad da i fynd i gymaint o atyniadau a lleoedd.”

Mae tafarn The Bear Inn yn fusnes arall sydd wedi profi naws bositif Eisteddfod yr Urdd yn dod i’r dref. Kirk Denton yw landlord The Bear:

“Mae’r Eisteddfod eisoes wedi dechrau cael effaith gadarnhaol ar The Bear. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr archebion ar gyfer llety a bwyd yn ogystal â gweld ysbryd cymunedol go iawn yn cynyddu wrth edrych ymlaen at y digwyddiad. Mae’r dref yn edrych yn wych gan fod pawb yn tynnu at ei gilydd i roi sblash o Wyn, Coch a Gwyrdd i Lanymddyfri! Rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd i’n tref”.

Nid busnesau llety yn unig sy’n gwneud y gorau o’r ŵyl ieuenctid. Caroline Whitney yw perchennog The Old Printing Office. Meddai Caroline:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r miloedd lawer o ymwelwyr i’r dref a’r siop. Rydym wedi cyflenwi a chynhyrchu rhai anrhegion yn arbennig ar gyfer nodi’r achlysur. Byddwn hefyd ar agor bob nos yn ystod yr wythnos, er mwyn gallu croesawu ymwelwyr a fydd o bosibl heb gael cyfle i adael y Maes yn ystod y dydd.”

100% Sir Gâr – Lleol amdani

Yma yn Sir Gaerfyrddin rydym yn lwcus bod gennym ystod fywiog ac amrywiol o fusnesau bach lleol sy’n cynhyrchu celf a chrefft gwych, bwyd a diod, ffasiwn, nwyddau cartref, anrhegion, teganau a mwy.

Mae cynllun 100% Sir Gâr yn gynllun gan Gyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi’i greu fel ffenestr siop rithwir gyda chymorth y cynghorau tref a chymuned a grwpiau busnes a manwerthu, i roi llwyfan i fanwerthwyr a chynhyrchwyr lleol dynnu sylw at eu cynnyrch.

Caiff manwerthwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a chrefftwyr annibynnol yn Sir Gaerfyrddin eu hannog i gofrestru i fod yn rhan o’r llwyfan, a fydd yn gyfle ychwanegol i hyrwyddo a marchnata eu busnes i gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol.

Un cwmni o’r fath sydd wedi manteisio ar y cynllun yw gwneuthurwyr canhwyllau moethus, Cwyr Cain fydd â phresenoldeb ar stondin 100% Sir Gâr yn yr Eisteddfod..

Dywedodd Carys, cydberchennog Cwyr Cain:

“Fe ddaeth Bwtîc Canhwyllau a phersawrau Cartref Cwyr Cain i fodolaeth yn dilyn newid gyrfa yn llwyr i ni’n dwy o fyd addysg. Yn dilyn diwrnod llesol o hyfforddi sut i wneud canhwyllau a chynnyrch persawrau cartref, ganwyd y syniad i gamu i fyd busnes fel partneriaeth.

“Trwy gefnogaeth a chymorth 100% Sir Gâr, rydym wedi cael cyfleoedd da i hyrwyddo ein menter ac i werthu ein cynnyrch Cymreig/dwyieithog mewn lleoliadau cyfagos a dysgu sut i wella a datblygu ffenestr siop ein busnes newydd. Roedd bod yn rhan o blatfform Sir Gâr hefyd yn sicrhau ein bod yn cael ein gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ac felly’n cyrraedd mwy o bobl.

“Fe brofodd derbyn grant Iaith Gwaith, gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn fuddiol er mwyn i ni fedru hyrwyddo a hybu’r Iaith Gymraeg, yn ogystal â datblygu ein gwefan ddwyieithog newydd. Mae bod yn rhan o 100% Sir Gâr wedi bod yn brofiad positif iawn i gwmni Cwyr Cain.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae’n hyfryd gweld Eisteddfod yr Urdd a’r economi leol yn cyd-fynd a’i gilydd fel hyn. Rwy’n hyderus bod ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi mwynhau’r hyn sydd gan Dref y Porthmyn a’r ardal gyfagos i’w cynnig yr wythnos hon a gobeithio y byddant yn ystyried dod yma eto wrth gynllunio eu gwyliau haf.

Fel sir, mae Sir Gaerfyrddin yn hafan i bobl sydd ar eu gwyliau, o’n traethau, amgueddfeydd, llwybrau beicio a cherdded i’n theatrau, parciau gwledig a marchnadoedd, mae digon o bethau i’w gwneud yma tra ar wyliau. Os hoffech gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich gwyliau nesaf, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Arweinydd Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio: “Rwy’n falch iawn o weld Llanymddyfri a threfi a phentrefi eraill Sir Gaerfyrddin yn llawn coch, gwyn a gwyrdd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

“Mae Llanymddyfri yn un o drefi menter y Deg Tref gan y Cyngor, sydd wedi cael ei sefydlu i gefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir. Mae cynnal digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yn dangos uchelgais glir gan gymuned Llanymddyfri a Sir Gaerfyrddin yn gyffredinol.

“Mae manteision diwylliannol clir o gynnal yr Eisteddfod i blant a phobl ifanc ein sir a’i heffaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, dylem hefyd ddathlu cyfraniad gwerthfawr yr ŵyl hon i fusnesau lleol, ar y Maes ac yn Llanymddyfri a’r ardal gyfagos.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle