Galwad am geisiadau o’r Gorllewin ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru

0
227
Cyn-enillwyr yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Dechreuwyd chwilio am y prentisiaid, y cyflogwyr a’r ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gorau yn y Gorllewin.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a bydd rhaid ymgeisio cyn 12, hanner dydd, ar 16 Mehefin.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Gellir lawrlwytho ffurflenni’r gwobrau, sy’n cydnabod sêr disglair rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru o www.llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru.

O’r ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu llunio ar gyfer gwobrau, yn cynnwys Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn, sydd hefyd yn cynnwys prentisiaid gradd, a Doniau’r Dyfodol.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer Cyflogwr Bach, Canolig, Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn cydnabod pobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Pan fydd busnes yn cyflogi prentis newydd, mae’n gwneud mwy na chael aelod newydd o’r staff. Mae’n buddsoddi nid yn unig yn ei ddyfodol ei hun, ond yn nyfodol ein heconomi hefyd.

“Mae prentisiaethau’n sbarduno gweithlu ac yn ei wneud yn fwy amrywiol, gan roi cyfle i bobl feithrin sgiliau galwedigaethol o safon uchel a chynnal eu hunain yn ariannol ar yr un pryd.

“Mae ein buddsoddiad mewn prentisiaethau, nid yn unig yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sectorau blaenoriaeth sy’n hanfodol er mwyn ysgogi cynhyrchiant a thwf economaidd, ond mae hefyd yn rhoi mwy o gyfle i bobl o bob oed a chefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwella eu bywydau.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, yn gyfrifol am anelu at y nod hanfodol o fod yn wlad sero net, ochr yn ochr â chynnal yr economi sylfaenol o-ddydd-i-ddydd a’r gwasanaethau cyhoeddus y bydd angen i ni eu cyflenwi.

“Rwy’n annog pawb sy’n ymwneud â’n rhaglen brentisiaethau i ddathlu’r hyn y maen nhw yn ei gyflawni. Gallwch ysbrydoli eraill i ddilyn eich esiampl trwy gymryd rhan yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a rhannu’r straeon am eich llwyddiant.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle