Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad i wirfoddoli gydag St John Ambulance Cymru.

0
209
Andrine and Natalie supporting a local event together.

Mae dau o fyfyrwyr gwirfoddol St John Ambulance Cymru wedi cael eu gwobrwyo gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am eu hymroddiad i wirfoddoli. Dyfarnwyd Lliwiau’r Brifysgol i Andrine Vanberg a Natalie Kraus am ddangos ymrwymiad parhaus i wirfoddoli gyda chymdeithas LINKS St John Ambulance Cymru.

Mae Andrine wedi bod yn aelod o St John Ambulance Cymru ers 2019 a Natalie ers 2021. Mae’r pâr wedi rhoi o’u hamser i wirfoddoli mewn digwyddiadau yn yr ardal, gan gadw myfyrwyr eraill ac aelodau o’r gymuned yn ddiogel.

Gall myfyrwyr Aberystwyth enwebu unigolion ar gyfer Gwobrau’r Gymdeithas, a chaiff yr enwebiadau eu beirniadu gan banel o undeb myfyrwyr y brifysgol. Enillodd 15 o unigolion Liwiau’r Brifysgol am wneud cyfraniad eithriadol i’w cymdeithas, gan gynnwys Andrine a Natalie. 

Dywedodd Natalie “Mae’n fraint i mi ennill y wobr hon yn ystod blwyddyn olaf fy ngradd yma yn Aberystwyth. Ymunais ag St John Ambulance Cymru yn 2021 ar ôl symud o’r Almaen i’r DU a chael fy ethol yn ysgrifennydd y Aberystwyth LINKS yn 2022. Wrth ddod i wlad newydd, rhoddodd St John Ambulance Cymru gyfle i mi wneud cyfeillgarwch parhaol gyda phobl o’r un anian. gan ganiatáu i mi ddatblygu fy sgiliau cymorth cyntaf a chael profiad ymarferol mewn digwyddiadau.”

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfleoedd, y cyfeillgarwch a’r profiadau a gefais drwy wirfoddoli gydag St John Ambulance Cymru a’r effaith fawr y bydd yn ei chael ar fy nhaith tuag at ddilyn gyrfa yn y maes meddygol” meddai.

Dyfarnwyd Lliwiau’r Brifysgol i Andrine, ynghyd â gwobr Myfyriwr Gwirfoddolwr y Flwyddyn ychwanegol. Dyfernir hwn i unigolyn sy’n dangos ymrwymiad gwirioneddol i wirfoddoli ac sy’n gweithredu fel model rôl cadarnhaol i fyfyrwyr eraill sy’n gwirfoddoli yn y brifysgol. 

“Mae gwirfoddoli gydag St John Ambulance Cymru wedi bod yn brofiad anhygoel” meddai. “Mae’r cymorth gan bawb o’m cwmpas, gan gynnwys aelodau eraill y pwyllgor, aelodau adrannol a phawb arall yn y sir wedi gwneud fy swydd y gorau y gall fod ac rwyf mor ddiolchgar am hynny! Mae St John Ambulance Cymru wedi rhoi ffrindiau oes i mi ac edrychaf ymlaen at bob digwyddiad.”

“Rwyf mor ddiolchgar am yr enwebiadau a’r cyfle i ennill y gwobrau hyn. Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch a bod fy ngwaith caled yn cael ei sylwi” dywedodd Andrine.

Os ydych chi’n fyfyriwr ym Mangor, Aberystwyth, Abertawe o Brifysgolion Caerdydd, gallwch chithau hefyd wirfoddoli gydag St John Ambulance Cymru. Bydd ymuno â chymdeithas LINKS nid yn unig yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd (gan fod gwirfoddoli yn rhoi profiad gwaith gwych i chi), ond byddwch hefyd yn cael mynychu digwyddiadau cyffrous yn eich ardal, gan helpu i gadw’ch cymuned yn ddiogel.

Gallwch ddarganfod mwy am gymdeithasau LINKS St John Ambulance Cymru yma: www.sjacymru.org.uk/en/page/links.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle