Gwnewch wahaniaeth. Dewch i weithio yn Sir Gaerfyrddin.

0
359
Sioned Raymond

Cyhoeddwyd heddiw, June 2, ar stondin Cyngor Sir Caerfyrddin yn Eisteddfod yr Urdd fod partneriaeth Arfor wedi sicrhau £3 miliwn i ymestyn menter Llwyddo’n Lleol.

Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau dros ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, nod Llwyddo’n Lleol yw perswadio’r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd, neu sydd eisoes wedi gadael, bod dyfodol a ffyniant economaidd iddynt mewn ardaloedd gwledig yng ngorllewin Cymru.

Bwriad rhaglen Arfor yw i hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes a gwytnwch cymunedol gan ganolbwyntio ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Yr wythnos yma, ar faes Eisteddfod yr Urdd 2023 a thu hwnt, rydym ni yma yn Sir Gâr yn dathlu ein hieuenctid a’r Gymraeg, mae’r ddau drysor yma yn allweddol i ffyniant ein sir ni ac ein cenedl.

“Mae’n holl bwysig bod ein pobl ifanc yn teimlo bod dyfodol llewyrchus iddynt yn Sir Gâr ac yn dewis aros yma i weithio, cyfrannu i’r economi a magu teuluoedd eu hun. Mae swyddi a chyfleoedd economaidd yn hanfodol i’r weledigaeth yma ac felly rwy’n croesawi’r gefnogaeth ariannol a ddaw trwy raglen Llwyddo’n Lleol a fydd yn ein helpu i wireddu ein hamcanion uchelgeisiol yr ydym wedi gosod yn ein Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Sir Gâr; i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn ein sir, gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sir a gwneud i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr.”

Wrth i Eisteddfod yr Urdd ddirwyn i ben, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gobeithio bod preswylwyr ac ymwelwyr â’r sir yn ystod yr ŵyl ieuenctid wythnos o hyd wedi mwynhau’r hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig.

Yn Sir Gaerfyrddin, rydym bob amser yn chwilio am bobl i ddod i weithio i’r awdurdod lleol, i wneud y sir yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i greu gwell Sir Gaerfyrddin? Beth am ymweld â’n gwefan i weld y swyddi gwag presennol.  

Sir Gaerfyrddin yw un o’r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a’r cyflogwr mwyaf yn lleol gydag oddeutu 8,300 o staff. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, cynnal a chadw priffyrdd, casglu gwastraff, cyfleusterau chwaraeon a hamdden i enwi ond ychydig. Mae’r cyfleoedd gyrfa gyda ni yn amrywiol ac yn werth chweil!

Rhaglen i Raddedigion

Mae ein rhaglen dros ddwy flynedd i raddedigion wedi’i chynllunio i gynnig cyfleoedd datblygu a fydd yn eich galluogi i dyfu a datblygu fel unigolyn, gan gynnwys ymgymryd â rolau arwain. Mae ein rhaglen yn agored i bob oedran, cyn belled â’ch bod yn meddu ar radd.

Mae pob llwybr yn cynnig cyfuniad o ddysgu trwy gael profiad ymarferol a chyfle i astudio a chael achrediad proffesiynol. Yn ogystal, bydd cyfle i ddysgu a datblygu trwy gyrsiau, seminarau a gweithdai mewnol ac allanol, e.e. cael eich mentora gan uwch-reolwyr a datblygu sgiliau rheoli a chyfathrebu.

Byddwch yn rhan o sefydliad sydd bob amser yn newid, ac rydym yn chwilio am bobl sy’n dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ogystal â hyblygrwydd a chreadigrwydd i ymuno â’n tîm. 

Sioned Raymond graddio

Mae Sioned Raymond wedi ymuno gyda Chyngor Sir Gâr trwy’r Rhaglen i Raddedigion ac yn gweithio fel Hyfforddai Graddedig: Swyddog Polisi a Phartneriaeth. Wrth sôn am ei phrofiad hyd yma, dywedodd Sioned:

“Wedi i mi raddio o Brifysgol Aberystwyth ar ôl treulio tair blynedd yn astudio cwrs gradd Busnes a Rheolaeth, roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i’m gwreiddiau yn Sir Gâr.  

“Fel unigolyn ifanc rwyf yn frwdfrydig i wneud fy nghymuned yn lle gwell i fyw ynddi ac yn angerddol dros ddatblygu’r Gymraeg yn fy ngwaith o ddydd i ddydd. 

“Nôl ym Mawrth 2022, pan gafodd y swyddi graddedig eu rhyddhau, teimlwn ei fod yn gyfle na allwn ei golli, gyda llu o fuddion i’r swydd yn ogystal â gweithio mewn maes sefydlog fel y Sector Cyhoeddus. Un o’r apeliadau mwyaf ar gyfer y rhaglen i raddedigion yw’r gallu i weithio a pharhau gyda fy natblygiad proffesiynol trwy gyflawni Gradd ôl-radd mewn Arfer Proffesiynol. 

“Roedd y broses ymgeisio yn un hynod fuddiol gyda’r ganolfan asesu yn rhoi cyfle i mi ddangos amrywiaeth o gryfderau sy’n berthnasol i’r swydd. Hyderaf fod y ganolfan asesu wedi rhoi profiad ystyrlon a realistig i mi a’m galluogodd i ddangos fy ngwir botensial. Tanlinellodd y ganolfan asesu sut fyddai’r Cyngor yn cefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu ond ar yr un adeg yn sicrhau bod fy uchelgeisiau personol yn cyd-fynd â gwerthoedd y Cyngor.  

“Ers i mi ddechrau fy swydd, trwy’r rhaglen raddedigion ddwy flynedd o hyd, fel Swyddog Polisi a Phartneriaeth rwyf wedi cael profiadau ymarferol, dysgu a datblygu trwy gyrsiau, mynychu seminarau a gweithdai mewnol ac allanol. Mae’r holl brofiadau rwyf eisoes wedi ei dderbyn trwy’r swydd wedi fy ngalluogi i dyfu a datblygu fel unigolyn, gan gynnwys ymgymryd â rolau arwain. 

“Mae’r datblygiad proffesiynol yr wyf wedi ei gael a’i ddatblygu wedi bod yn amhrisiadwy ac rwyf wedi ennill sgiliau a chymwysterau a fydd o gymorth i mi drwy gydol fy llwybr gyrfa. 

“Bellach rwyf yn agosáu at gwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd, ac yn cael y cyfle i gyflawni amrywiaeth o dasgau o ddydd i ddydd. Yn benodol, gwaith yn ymwneud â’r Gymraeg sydd o ddiddordeb mawr i mi gan fy mod yn awyddus i weld y Gymraeg yn ffynnu yn Sir Gâr.  

Mae’r swydd wedi agor cymaint o ddrysau newydd i mi ac yn gyfle gwych – Ewch amdani.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu: “Mae wedi bod yn wych gwylio’r ystod eang o gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon a thalent gyfoethog ac amrywiol ein pobl ifanc.

“Pobl ifanc yw ein dyfodol ac fel cyflogwr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i raddedigion. Mae ein gweithlu a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu i’n dinasyddion wrth wraidd y sefydliad hwn, ac rydym yn chwilio am bobl sy’n dangos ymrwymiad ac egni yn ogystal â bod yn hyblyg ac yn greadigol wrth ddarparu ein gwasanaethau.

“Mae ein rhaglen lwyddiannus i raddedigion yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’r rhai sy’n gadael y brifysgol gael profiad gwerthfawr a pharhau â’u haddysg mewn sefydliad deinamig a blaengar sy’n newid yn barhaus. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â’n rhaglen, sy’n agored i bob oedran, a’n helpu i lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Gaerfyrddin.

“Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr sgiliau dwyieithog llawer o’n staff. Mae yna bwysigrwydd cynyddol i allu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynnal mwy o’i waith drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg uchelgeisiol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle