Parkrun ar gyfer GIG Cymru

0
238
Park Run start

Cymerwch ran yn eich parkrun lleol neu parkrun iau ac ymuno â’r miloedd o bobl sy’n cerdded, yn rhedeg neu’n gwirfoddoli yn ‘parkrun ar gyfer y GIG’ i ddathlu GIG75.

Mae disgwyl i ddegau o filoedd o bobl gymryd rhan yn parkrun ar gyfer y GIG ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf a digwyddiadau parkrun iau ddydd Sul 9 Gorffennaf i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed.

Cymru oedd man geni’r GIG ac mae’r digwyddiad am ddim yn gyfle i bobl gydnabod y cyfraniad enfawr y mae GIG Cymru a’i staff yn ei wneud i gymunedau Cymru.

Parkrun Dog

Elusen iechyd a lles fyd-eang, sydd â’i phencadlys yn y DU, yw parkrun. Mae’n annog pobl i symud yng nghwmni eraill ac yn yr awyr agored, boed hynny drwy gerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu drwy ddod i godi calon a chymdeithasu. Nid oes terfyn amser ac nid oes unrhyw un yn gorffen olaf. Mae croeso i bawb.

Mae trefnwyr digwyddiadau yn annog pawb i wisgo lliwiau nodweddiadol y GIG, glas ac aur, neu wisg ffansi a bydd timau GIG yno i gymryd rhan, darparu gwybodaeth am y GIG a chyfeirio at yr holl ffyrdd y gall pobl helpu i gefnogi’r gwasanaeth. 

Mark Drakeford FM

Wrth lansio parkrun ar gyfer y GIG yng Nghymru yn parkrun Trelái, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Cadw’n heini yw un o’r ffyrdd gorau y gallwn ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd a gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae parkrun yn ffordd wych o wneud hyn ac mae’n rhan o galendr wythnosol llawer o bobl. Byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib’ i ddathlu GIG 75 drwy gymryd rhan yn eu parkrun lleol.

“Ym mis Gorffennaf, bydd hi’n 75 mlynedd ers i Aneurin Bevan greu ein Gwasanaeth Iechyd, gydag addewid i ddarparu gofal iechyd am ddim i bawb. Wrth inni goffáu 75 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth, rydym yn diolch i bawb sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu amdanom yn ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae hefyd yn gyfle inni ystyried sut y gallwn helpu ein hunain i gadw’n iach.”

Sir Frank Atherton CMO

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton:

“Mae GIG75 yn gyfle gwych i bobl ddathlu’r effaith enfawr y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei chael ar ein bywydau i gyd.”

“Drwy gerdded, rhedeg neu wirfoddoli mewn parkrun lleol yng Nghymru, bydd unigolion yn cymryd cam mawr tuag at wella eu hiechyd a’u ffitrwydd, gan adael gwaddol gwych yn sgil GIG75.”

Chrissie Wellington OBE Global Head of HWB, parkrun and Helen Ward – international footballer

Dywedodd Chrissie Wellington, Pennaeth Iechyd a Lles Byd-eang parkrun:

“Rydym wrth ein bodd o fod yn ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd ledled y Deyrnas Unedig i ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed. Rydym yn gwybod bod cymryd rhan mewn parkrun yn hynod fuddiol i iechyd meddyliol a chorfforol pobl, a gorau oll, mae’r digwyddiadau yn lleol, yn hwylus, yn rhad ac am ddim, ac yn hwyl! Maent hefyd yno bob wythnos, a byddem wrth ein bodd yn gweld y rhai sy’n cymryd rhan yn parhau i ymuno â ni yn y dyfodol. ‘Parkrun ar gyfer y GIG’ yw’r ffordd berffaith inni gynyddu ymwybyddiaeth o parkrun ar draws y sector iechyd gan dalu teyrnged ar yr un pryd i gyfraniad enfawr a gwerthfawr staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd i iechyd ein cenedl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle