Carfan nyrsio yn cerdded y promenâd ar gyfer Uned Cemo Bronglais

0
238
Yn y llun uchod gwelir: Myfyrwyr nyrsio o Brifysgol Aberystwyth ar y promenâd

Cerddodd myfyrwyr nyrsio a darlithwyr o Brifysgol Aberystwyth bromenâd Aberystwyth i godi arian ar gyfer uned ddydd cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Yn ystod y daith gerdded noddedig, a ddigwyddodd ar 28 Mai 2023, cerddodd myfyrwyr nyrsio a darlithwyr nyrsio’r promenâd 10 gwaith.

Pleidleisiodd myfyrwyr a staff i gefnogi’r uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais fel Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth 2022-23.

Bydd yr arian a godir gan staff a myfyrwyr y Brifysgol dros y flwyddyn yn mynd tuag at wella’r uned a darparu gwasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.

Dywedodd Gwenno Jones, cynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fel carfan nyrsio gyntaf Prifysgol Aberystwyth, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r ysbyty lleol, yn enwedig yr uned ddydd cemotherapi gan ei bod yn uned mor hanfodol i’w chael mewn ardal wledig iawn.

“Mae hefyd yn bwysig i ni gefnogi elusen y flwyddyn o ddewis y brifysgol gan eu bod wedi gwneud cymaint o waith i’n croesawu ni nyrsys i’r ardal. Mae creu’r cwrs nyrsio mewn tref fel Aberystwyth wedi galluogi llawer o bobl leol i wireddu eu breuddwydion o ddod yn nyrsys y dyfodol.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian: “Mae’n wych gweld y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio yn cefnogi Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth.

“Mae Ysbyty Bronglais a’r Uned Ddydd Cemotherapi yn golygu gymaint i’r bobl leol a’r cymunedau cyfagos. Mae’r ffaith bod myfyrwyr nawr hefyd yn gallu astudio yma i ddod yn nyrsys cymwys yn wych i’r ardal leol.”

Gallwch barhau i gyfrannu at godwr arian y nyrsys yn https://hyweldda.enthuse.com/pf/walking-the-prom


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle