Rhaglenni Peilot Arloesol yn Arddangos Modelau Llwyddiannus ar gyfer Caffael Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru…

0
214
Senedd WCFD PLANED Team

C:\Users\EmmaL\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Word\NEWplaned_logo.jpg

Ar 8 Mehefin, daeth digwyddiad arloesol yn y Senedd â thair menter ynghyd a gafodd eu hariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru i archwilio’r camau nesaf ar gyfer datblygu cadwyn gyflenwi a chaffael bwyd cynaliadwy yn gyhoeddus yng Nghymru. Cyflwynodd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Menter Môn a PLANED eu llwyddiannau, cyfleoedd, ac argymhellion ar gyfer darparu bwyd lleol i bobl leol sy’n fanteisiol i’r amgylchedd, yr economi a’r gymdeithas.

Dywedodd Abi Marriott, Cydlynydd Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru (WCFD), “Cyflwynodd digwyddiad ‘Dyfodol Bwyd o Gymru’ dystiolaeth gref gan y tair rhaglen beilot, a oedd yn dangos sut all gwahanol fodelau gydweithio i gefnogi caffael bwyd yn gyhoeddus sy’n cynnig manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru.”

Noddwyd y digwyddiad gan Weinidogion y Senedd ar draws y pleidiau, yn cynnwys Cefin Campbell AS, Eluned Morgan AS, Jane Dodds AS, Peter Fox AS a Russell George AS. 

Cafodd y rhai a fynychodd y digwyddiad gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau Holi ac Ateb a chyflwyniadau, yn ogystal â chyfrannu at grwpiau ffocws bach er mwyn gallu rhannu eu profiadau a lleisio eu barn ynghylch darparu bwyd lleol i bobl leol, a’r angen i gyflawni manteision amgylcheddol, gwerthoedd maethol uchel, ac arbedion carbon drwy gaffael cyhoeddus.

Dywedodd un o’r mynychwyr wrthym “roedd yn wych gweld ffrwyth gwaith caled PLANED, Menter Môn a Social Farms and Gardens.  Roedd yr arddangosfa’n fewnwelediad gwerthfawr i ddyfodol posibl y diwydiant bwyd o Gymru, ac yn amlygu gwerth modelau newydd ac arloesol megis y rhai a welwyd heddiw.”

Drwy gyfnewid gwybodaeth a syniadau yn ystod y sgwrs hon, dangosodd y rhaglenni peilot sut all gwahanol fodelau weithio ar y cyd yn llwyddiannus er mwyn cefnogi caffael cyhoeddus o fwyd cynaliadwy a chadwyni cyflenwi byr sy’n cynnig manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Yn ystod y digwyddiad, dysgodd y rhai a oedd yn bresennol am ganlyniadau’r prosiect, argymhellion allweddol a chlywed gan aelodau’r gymuned a buddiolwyr prosiectau.  

 “Roeddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o westeion ar draws y partïon yn annog trafodaethau ynghylch bwyd a’r heriau a’r cyfleoedd o greu cadwyn gyflenwi bwyd gynaliadwy, leol.” Sam Stables, Swyddog Datblygu Prosiect (WCFD)

Bu’r digwyddiad hefyd yn arddangos bwyd a diod gan gyflenwyr Cymreig, gan amlygu eu hôl troed carbon a dwysedd maethol. Ymhlith y cyflenwyr a gymerodd ran oedd Welsh Brew Tea, Dwyfor Coffee, Coffi Dre, Fferm Morris Crucywel, Llysiau Hooma Hu, Cultivate Y Drenewydd – Planhigion Micro-wyrdd gan CEA, Microacers Wales, Valleys Veg, Llaeth y Llan, Hufenfa De Arfon, Edwards o Gonwy, a bara o fecysiau Cymreig fel Village Bakery.

Ar y cyfan, roedd digwyddiad Dyfodol Bwyd o Gymru yn llwyddiant mawr o ran dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i archwilio modelau arloesol ar gyfer caffael cyhoeddus o fwyd cynaliadwy a chadwyni cyflenwi byr yng Nghymru. Cyflwynodd y mentrau eu llwyddiannau, cyfleoedd, ac argymhellion ar gyfer darparu bwyd lleol sy’n fanteisiol i’r amgylchedd, yr economi a’r gymdeithas.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle