Heddiw yw dechrau Wythnos Trafnidiaeth Well – dathliad wythnos o drafnidiaeth gynaliadwy sy’n canolbwyntio ar wahanol themâu trafnidiaeth bob dydd.
Lansiwyd ‘Diwrnod y Rheilffyrdd’ yng Nghymru gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters a chafodd cynrychiolwyr o’r Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well gyfle i weld a chlywed am y chwyldro rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi dechrau cyflwyno tri math o drên newydd i rwydwaith Cymru a’r Gororau eleni, fel rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd.
Y trên Dosbarth 197 oedd y cyntaf, a bydd yn asgwrn cefn i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar hyd a lled y rhwydwaith. Yn ail, roedd Intercity a Threnau Ysgafn Cyflym Dosbarth 231 (FLIRTs), gan ddynodi dechrau Metro De Cymru ac yn dilyn hyn cyflwynwyd y Dosbarth 230 yng Ngogledd Cymru.
Mae prosiect biliwn o bunnoedd Metro De Cymru sydd ar y gweill, a fydd yn trydaneiddio rheilffyrdd cymoedd De Cymru, gyda cham cyntaf y trydaneiddio wedi dechrau’r mis hwn. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y trenau tram newydd yn cael eu profi a’r rhain fydd y cerbydau rheilffordd ysgafn cyntaf yng Nghymru i ddarparu teithiau gwyrddach a chyflymach.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Rwy’n falch o groesawu’r Ymgyrch Wythnos Trafnidiaeth Well i Gaerdydd heddiw. Mae ein system drafnidiaeth yn cychwyn ar gyfnod o newidiadau trawsnewidiol ac rwy’n falch iawn o allu arddangos rhywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy ledled Cymru.”
Dywedodd Silviya Barrett o’r Ymgyrch Wythnos Trafnidiaeth Well: “Rydym yn falch iawn o fod yma yng Nghymru heddiw i lansio Wythnos Trafnidiaeth Well. Mae Cymru wedi bwrw ymlaen â pholisïau trafnidiaeth sy’n hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy i wella bywydau ac rydym yn falch iawn o fod yma yng Nghaerdydd, yn dathlu trafnidiaeth gynaliadwy drwy’r Wythnos Trafnidiaeth Well gyntaf erioed.
“Mae’r nifer enfawr o bartneriaid sydd wedi addo cefnogaeth am yr wythnos, o lywodraeth ganolog a lleol, diwydiant a busnes, i gyrff anllywodraethol a grwpiau teithwyr, yn dangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw trafnidiaeth gynaliadwy.”
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol: “Mae Wythnos Trafnidiaeth Well yn canolbwyntio ar drafnidiaeth gynaliadwy ac yng Nghymru rydym yn gweithredu rhaglen o drawsnewid a fydd yn creu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
“Rydym bellach wedi dechrau cyflwyno trenau newydd sbon i’n rhwydwaith fel rhan o’n hymrwymiad i wella’r profiad taith i’n cwsmeriaid. Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, byddwn yn parhau i gyflwyno mwy yn raddol, a bydd hyn yn trawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd yn llwyr. O fewn ychydig flynyddoedd, bydd 95% o deithiau, ar ein rhwydwaith Cymru a’r Gororau, ar drên newydd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle