Datgelu dull newydd o fynd i’r afael â diabetes a gwella gofal. 

0
235

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gofynion newydd i’r GIG yng Nghymru wella gofal diabetes a rhoi gwell cefnogaeth i bobl reoli eu cyflwr.

Mae diabetes yn effeithio ar tua 7% o bobl yng Nghymru ac mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Diabetes yn nodi blaenoriaethau gwasanaeth allweddol a disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer datblygu gofal diabetes gwell.

Mae’n rhoi pwyslais ar ofal cefnogol da: helpu pobl i ddysgu sut i reoli eu cyflwr yn dda drwy gymryd rhan mewn rhaglenni addysgol, cael cefnogaeth reolaidd gan wasanaethau gofal iechyd, a gwella mynediad at dechnoleg diabetes a all helpu pobl i reoli’r cyflwr.

Er bod diabetes math 1 yn effeithio ar tua 16,000 o bobl yng Nghymru ac ni ellir ei atal, mae mwy na 190,000 o bobl â diabetes math 2, y mae modd ei atal neu ei ohirio. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai nifer yr achosion o ddiabetes godi i 10% o’r boblogaeth erbyn 2035. Pan nad yw diabetes yn cael ei reoli’n dda, gall arwain at niwed difrifol i’r galon, y llygaid, yr arennau a’r traed yn ogystal ag achosi argyfyngau diabetig i rai pobl.

Mae angen cefnogaeth sylweddol ar bobl â diabetes gan wasanaethau’r GIG er mwyn eu helpu i reoli’r cyflwr. Mae’n bwysig bod pobl yn cael y cymorth cywir pan fydd ganddynt gyflwr a bod achosion newydd yn cael eu hatal lle bo hynny’n bosibl. Rhan o’r dull newydd yw cyflwyno cefnogaeth i bobl sydd â’r risg uchaf o gael diabetes a chyflwyno gwasanaethau lleddfu diabetes newydd ar gyfer pobl sydd newydd gael diagnosis ac a allai wrthdroi datblygiad y cyflwr. Yn ogystal, mae £1m y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen ataliol ar gyfer pobl â’r cyflwr cyn-ddiabetes fel rhan o’r buddsoddiad ehangach o £13m o dan y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach.

Wrth gwrdd â chleifion sydd wedi bod trwy’r rhaglenni addysg  dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae datganiad ansawdd heddiw yn nodi sut y bydd y GIG yn gwneud diagnosis ac yn helpu pobl i reoli eu diabetes. Mae’n nodi’r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar atal diabetes math 2 ac, yn ehangach, atal y cymhlethdodau difrifol a all ddod gyda diabetes.”

“Mae diabetes hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein GIG. Rydyn ni’n buddsoddi mewn rhaglenni sy’n cefnogi pobl i gyrraedd pwysau iach – sef y ffordd orau o atal diabetes math 2. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhaid i ni wneud mwy i atal achosion o ddiabetes math 2, sy’n cyfrif am oddeutu 90% o achosion newydd.”

“Mae angen inni wneud newidiadau systemig mawr i greu amgylcheddau sy’n annog pobl i fod yn fwy egnïol. Mewn ffordd debyg, mae angen i ni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar fwyd iach fforddiadwy. Mae’r newidiadau hyn yn cyrraedd y tu hwnt i’r GIG ac mae angen i bawb yn ein cymdeithas chwarae eu rhan, gan gynnwys helpu i dynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau’r GIG.”

Dywedodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru:

“Mae Diabetes UK Cymru yn croesawu’r Datganiad Ansawdd newydd ar gyfer Gofal Diabetes a lansiwyd heddiw. Fel elusen, rydym yn obeithiol y bydd yn arwain at welliant amlwg mewn gofal i bobl sy’n byw gyda diabetes ledled Cymru.

“Mae diabetes yn ddi-baid, mae’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd unigolyn, a bywydau’r rhai sy’n agos atynt. Mae angen i bobl â phob math o ddiabetes gael mynediad at sgrinio a gofal arferol, cymorth seicolegol, a’r cynnig o dechnolegau newydd i allu rheoli eu diabetes yn y ffordd orau bosibl.

“Gyda darpariaeth gofal yng Nghymru yn dal i adfer yn dilyn y pandemig, a heriau pellach nawr wrth i ni wynebu argyfwng costau byw, edrychwn ymlaen at newidiadau mawr mewn llywodraethu a darparu gofal, fel bod pawb sy’n byw gyda diabetes a phawb y mae diabetes yn effeithio arnynt yn cael mynediad at gefnogaeth a gofal teg a chyson.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle