HANES ARWRES GYMREIG YN CYRRAEDD YNG NGHAERFYRDDIN

0
217

Bydd y cynhyrchiad Haf newydd Cwmni Theatr Arad Goch, Jemima, yn cyrraedd yn Y Theatr Y Lyric, Caerfyrddin ar ddydd Mercher 28 Mehefin ar 13:00 a ddydd Iau 29 Mehefin ar 10:00.

Mae Jemima yn gynhyrchiad Cymraeg hollol newydd sydd wedi ei ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Jeremy Turner, ar gyfer plant 7 i 11 oed, ac wedi’i seilio ar stori Jemima Nicholas, sef un o fenywod pwysicaf hanes Cymru.

Roedd Jemima Nicholas yn byw yn Abergwaun, Sir Benfro, yn ystod y 18fed ganrif. Phan roedd hi yn ei phedwardegau hwyr, roedd Prydain yng nghanol rhyfel gyda Ffrainc. Bwriadodd Ffrainc i ddefnyddio Abergwaun fel safle i lansio ymosodiad ar Brydain. Pan gafodd Jemima wybod am hyn, trefnodd grŵp o fenywod, yn cario picffyrch ac yn gwisgo’u dillad Cymreig traddodiadol, i frwydro yn erbyn y Ffrancwyr. Yn ôl pob sôn, gwynebodd Jemima a’i chriw y Ffrancwyr, gan eu gorfodi i ildio. Helpodd yr hyn wnaeth Jemima i atal yr ymosodiad ar Brydain yn gyfangwbl.

Gall Deborah Harries, a aned yn Aberteifi, olrhain ei choeden deulu yn ôl i Jemima Nicholas. Dywed Deborah, “I’m very proud to be a descendant of Jemima Nicholas. She was my great x8 aunt on my mother’s side. I’ve always loved the story about how she rounded up the drunken French soldiers with only a pitchfork and saved us from a French invasion.  It’s wonderful that Arad Goch are sharing Jemima’s story in their show and telling the children of Wales about the heroine Jemima Fawr. Long may the legend continue! “

Cwmni Theatr sydd yn adnabyddus am waith theatr i gynulleidfaoedd ifanc yw Arad Goch- mae eu cynyrchiadau yn tynnu ar hanes, chwedlau a chymeriadau Cymru, gyda chynyrchiadau fel Guto Nyth Brân, Twm Siôn Cati a Beca.

Tocynnau: £6.00 – Swyddfa Docynnau Theatrau Sir Gâr 0345 2263510 (10:00-15:00, Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn) www.theatrausirgar.co.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle