Darparwyr hyfforddiant yng Nghymru’n symud ymlaen i sicrhau parch cydradd

0
167
Lisa Mytton, yr NTFW wedi cyflawni llawer mewn blwyddyn.

Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Mae cyfarwyddwr strategol ffederasiwn o ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru o’r farn bod cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf wrth gydweithio â Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod – parch cydradd ar gyfer dysgu seiliedig ar waith.

Dywed Lisa Mytton, o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar farn darparwyr annibynnol dysgu seiliedig ar waith sy’n chwarae rhan allweddol yn yr ymgais i gyflawni targed uchelgeisiol Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething o 125,000 o brentisiaid pob oed erbyn 2027.

Ymhlith llwyddiannau’r NTFW yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae sicrhau cynnydd o bump y cant yn y bandiau ariannu gan Lywodraeth Cymru fis Rhagfyr diwethaf am fod costau byw’n cynyddu.  Yn ddiweddar, cytunwyd ar gynnydd arall o bump y cant ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar gyfer y flwyddyn gontract newydd sy’n dechrau ar 1 Awst.

“Mewn cydweithrediad â ColegauCymru, aethom at Lywodraeth Cymru ddiwedd y llynedd i gyflwyno tystiolaeth o’r pwysau yr oedd yr argyfwng costau byw yn ei roi ar ein darparwyr dysgu seiliedig ar waith o ran recriwtio a chadw staff,” meddai Lisa.

“Mae’r cynnydd o bump y cant yng ngwerth contractau i’n haelodau o 1 Awst yn rhoi eglurder, yn helpu darparwyr i gynllunio’n well ac mae’n hwb mawr i yrru’r rhaglen brentisiaeth yn ei blaen.”

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi llacio cyfyngiadau cymhwysedd ar gyfer pobl sy’n dymuno gwneud prentisiaethau yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i gyflogwyr recriwtio neu uwchsgilio gweithwyr presennol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y dystiolaeth a baratowyd gennym am feini prawf cymhwysedd ar gyfer prentisiaethau a bydd llacio’r cyfyngiadau yn hwb enfawr i’r rhwydwaith,” meddai Lisa.

Wrth adolygu’r flwyddyn ers iddi gael ei phenodi gan NTFW, dywedodd Lisa fod lansio cynllun strategol y Ffederasiwn ar gyfer y tair blynedd nesaf ym mis Mawrth, yn garreg filltir arwyddocaol.

Mae’r cynllun, ‘Datblygu gweithlu’r dyfodol yng Nghymru’, yn addo sicrhau cydweithio i lunio a darparu cymwysterau galwedigaethol ysbrydoledig sydd o fudd i ddysgwyr a chyflogwyr ac sy’n hybu twf economaidd.

Ac yn wir, mae’r NTFW wedi bod yn cydweithio â ColegauCymru mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau undod ym maes dysgu ôl-16.  Yn ogystal, mae’r ddau sefydliad yn cydweithio i adolygu fframweithiau prentisiaethau.

Mae’r NTFW yn awyddus i feithrin perthynas weithiol dda gyda Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) newydd Llywodraeth Cymru, a dylanwadu arno, gan adeiladu ar gryfderau’r sector dysgu seiliedig ar waith er mwyn wynebu heriau a chyfleoedd yn y dyfodol.   

Mae’r sefydliad newydd, sydd wedi penodi Simon Pirotte, OBE, yn brif weithredwr yn ddiweddar, yn dechrau ar gyfnod pontio ym mis Medi cyn ei lansio fis Ebrill nesaf.

“Mae fy nhaith gydag NTFW wedi bod yn un gadarnhaol iawn,” meddai Lisa.  “Fy mhrif amcan yw sicrhau yr un parch i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ag i ddarparwyr addysg ôl-16 eraill.

“Rwy wedi meithrin perthynas dda iawn â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac rwy’n cyfarfod â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething i drafod nid yn unig dargedau ac amcanion ond hefyd yr heriau a’r rhwystrau sy’n wynebu ein rhwydwaith o ddarparwyr.

“Mae’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn gwrando, a gwelwyd hynny hefyd wrth iddynt roi cyfnod estynedig o 19 mis i ddysgwyr Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gwblhau eu prentisiaethau oherwydd y problemau a gawsant yn ystod y pandemig.

“Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu £1 miliwn i ddarparwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol hon tuag at iechyd a lles dysgwyr.

“Ers y pandemig, bu cynnydd mawr yn nifer y dysgwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.  Mae rhai wedi symud i fyd gwaith heb fod yn barod i wneud hynny ac mae ein rhwydwaith ni wedi gorfod darparu gwasanaeth cofleidiol i ddiwallu’r anghenion hyn.”

Blaenoriaethau Lisa ar gyfer NTFW yn y dyfodol yw cryfhau’r berthynas â Llywodraeth Cymru a CADY ymhellach a pharhau i gydweithio â ColegauCymru, perthynas sydd wedi gweithio’n dda i bawb.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle