Ymchwil newydd yn dangos manteision addysgu disgyblion am iechyd meddwl yn yr ystafell ddosbarth

0
190

Gall rhoi’r adnoddau a’r hyfforddiant cywir i ysgolion addysgu disgyblion am iechyd meddwl gael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl ifanc.

Mae ymchwil newydd gan academyddion o Gymru newydd gael ei chyhoeddi sy’n dangos manteision gwella llythrennedd iechyd meddwl disgyblion a lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl ar adeg hollbwysig ym mywyd person ifanc.

Mae’r rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn dechrau ym mlynyddoedd yr arddegau gydag arolwg diweddar yn nodi bod dau o bob pump o bobl ifanc yn adrodd am symptomau iechyd meddwl. Er hynny, oherwydd gwybodaeth wael am faterion iechyd meddwl, a stigma am iechyd meddwl, nid yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael cymorth.

Yn erbyn y cefndir hwn, bu tîm o brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn gweithio gydag elusen Action for Children (Gweithredu Dros Blant Cymru) i ddatblygu rhaglen llythrennedd iechyd meddwl Canllaw Cymru sy’n cynnwys hyfforddiant i athrawon, mynediad i adnoddau a fideos ar-lein a modiwlau ystafell ddosbarth.

Ar gyfer yr ymchwil rhannwyd grŵp o bron i 2,000 o ddisgyblion 13 i 14 mlwydd oed o bob rhan o Gymru yn ddau ar gyfer hap-dreial rheoli o 10 wythnos gyda hanner ohonyn nhw’n profi Y Canllaw, a ddarperir gan athrawon sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig.

Dengys canfyddiadau’r ymchwil, sydd newydd ei gyhoeddi gan y cylchgrawn ar-lein BMC Public Health, bod y disgyblion a gafodd fynediad at Y Canllaw welliannau ym mron pob maes, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd meddwl, gwell ymddygiadau iechyd meddwl, llai o stigma iechyd meddwl a mwy o fwriadau i geisio cymorth ar gyfer problemau.

Dywedodd myfyriwr PhD Abertawe a’r cyd-awdur Nicola Simkiss: “Mae’n ddinistriol gweld plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth ag anawsterau iechyd meddwl nad ydynt yn cael eu hadrodd a heb eu trin.

“Credwn fod Y Canllaw yn ymyriad effeithiol a all helpu plant ac athrawon i ddeall bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin, yn union fel problemau iechyd corfforol, ac y dylent geisio cymorth a pheidio â cheisio cuddio’r broblem.”

Dywedodd yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, sydd hefyd yn seicolegydd clinigol a fforensig ymgynghorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae Y Canllaw yn bwysig oherwydd gall athrawon sy’n adnabod y myfyrwyr ei gyflwyno’n hawdd fel rhan o’r cwricwlwm ysgol.”

Mae hi nawr yn gobeithio mai dyma fydd cychwyn y broses o wreiddio addysg ac ymyrraeth iechyd meddwl mewn ysgolion: “Gall Y Canllaw fod yn ddechrau proses o drafodaeth agored am heriau iechyd meddwl ac emosiynol mewn ysgolion, a sut orau y gall ein pobl ifanc ddysgu am y problemau hyn a’r ffyrdd mwyaf effeithiol o geisio cymorth pan fod angen.”

Meddai Brigitte Gater, Cyfarwyddwr Gweithredu dros Blant Cymru: “Mae gallu dangos buddion ac effaith rhaglenni fel The Guide trwy ymchwil academaidd yn hynod bwysig. Mae’r rhaglen ymyrraeth yn arf arwyddocaol i wella iechyd meddwl ein plant a’n pobl ifanc yng Nghymru.”

Ychwanegodd Rheolwr Gwasanaethau Plant Gweithredu dros Blant Chris Dunne: “Mae iechyd meddwl plant yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth a gobeithiwn y bydd canlyniadau’r ymchwil yn annog ysgolion i’w ddefnyddio fel rhan o’u cwricwlwm.”

Dywedodd Cynghorydd i’r Prif Swyddog Meddygol a Llywodraeth Cymru – Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Dr Dave Williams: “Mae’r Canllaw wedi bod yn adnodd ardderchog i alluogi gweithwyr proffesiynol i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol. Mae’n chwarae rhan yn y nod Cymreig o normaleiddio ymatebion emosiynol tra’n meithrin gallu cymunedau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen cymorth arbenigol.”

Nawr mae’r awduron yn dweud eu bod am edyrch i’r dyfodol. Dywedodd yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd: “Gwnaeth Y Canllaw yn union yr hyn yr oeddem wedi gobeithio y byddai’n ei wneud. Er hynny, mae angen i ni wneud gwaith dilynol ar yr ymchwil hwn i weld a all y newidiadau hyn mewn gwybodaeth ac agweddau droi’n ganlyniadau iechyd meddwl gwell wrth i’r plant hyn ddatblygu o’r glasoed i fod yn oedolion ifanc.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle