Cynllun profiad gwaith newydd i gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn

0
240
Louie with the owner of Brooklyn Motors Newport crop

Heddiw, cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bydd pobl ifanc sydd mewn perygl o adael addysg yn cael profiad gwaith ystyrlon fel rhan o ymdrechion i sicrhau eu bod yn ailgysylltu â’u haddysg.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, bydd y cynllun hanner miliwn o bunnoedd yn cefnogi hyd at 500 o ddysgwyr 14-16 oed ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn 2023/24. Byddant yn elwa ar leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel, mewn sector sy’n apelio atynt, fel rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru i leihau ac atal diweithdra ymhlith pobl ifanc.

Bydd cynghorwyr Gyrfa Cymru yn cydweithio ag ysgolion a chyflogwyr ledled Cymru i roi lleoliad profiad gwaith i hyd at 500 o ddysgwyr ym mlwyddyn 10 a b.0lwyddyn 11.

Disgwylir i ddysgwyr ymgymryd ag astudiaethau TGAU craidd yn eu hysgol neu ailymgymryd â nhw, gan fynd i’w lleoliad profiad gwaith un i ddau ddiwrnod yr wythnos.

Fel rhan o’r cynllun peilot lle cafodd 100 o ddysgwyr o flwyddyn 10 gynnig lleoliad profiad gwaith, cafodd Louie, sydd bellach ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Casnewydd brofiad gwaith yn Brooklyn Motors, garej yng Nghasnewydd.

Nid oedd Louie yn mynd i’r ysgol ym mlwyddyn 10, ond o ganlyniad i’w leoliad profiad gwaith a mentoriaeth David Cocks, perchennog y garej, mae wedi dychwelyd i’r ysgol ac mae’n dal i fyny â’i waith ysgol.

Dywedodd Louie:

“Mae’r lleoliad wedi helpu fy hyder, ac rwy’n mynd o nerth i nerth. Byddwn yn argymell i bawb wneud profiad gwaith.

“Os na fyddwn i wedi gwneud y profiad gwaith, fyddwn i ddim wedi gwneud fy arholiadau TGAU, rydw i wedi gwneud mwy eleni i ddal i fyny, oherwydd fy mhrofiad gwaith.

“Wnes i ddim mynd i’r ysgol y llynedd, ond nawr ers i mi ddechrau ar brofiad gwaith, ac oherwydd bod David yn dweud bod yr ysgol yn bwysig, dwi ddim yn colli’r ysgol.”

Ers hynny, mae Louie wedi cael cynnig prentisiaeth lle bydd yn dysgu am fecaneg a chynnal a chadw cerbydau ysgafn, ac mae hynny wedi cael effaith hynod gadarnhaol  ar ei hyder a’i gymhelliant.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Gwyddom fod rhoi cipolwg go iawn ar fyd gwaith drwy brofiad gwaith yn hybu cyfleoedd gyrfa pobl ifanc.

“Rwy’n benderfynol o sicrhau bod pobl ifanc yn meithrin y dyhead a’r hunanhyder sydd eu hangen arnynt mewn bywyd, ac yn cael y cyfleoedd priodol hefyd.

“Dyna pam rwy’n cyhoeddi bod dros £500,000 ar gael i Gyrfa Cymru ychwanegu at y cynllun llwyddiannus hwn i helpu’r bobl ifanc a fydd yn elwa fwyaf o brofiad gwaith.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ysbrydoli plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, fel eu bod yn chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi a’n cymdeithas.

“Bydd y cynllun newydd hwn, a fydd yn rhoi mynediad i ddysgwyr blwyddyn 11 at brofiad gwaith ystyrlon mewn sector y maent am weithio ynddo, yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i wneud hynny.”

Bydd y cynllun yn rhoi mynediad i ddysgwyr at gyfleoedd newydd a rhwydwaith o gysylltiadau y tu allan i’w hysgol a’u teulu agos i’w helpu i ddatblygu a symud ymlaen o ran eu huchelgais a’u gyrfa, gan dynnu sylw at rai o’r llwybrau gyrfa gwahanol sydd ar gael iddynt.

Byddant yn cael cyfle i ddatblygu gwybodaeth, ennill sgiliau ymarferol a gwella’u hyder i helpu i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle