Datgelu cyfrinachau Castell Caeriw gyda theithiau arbennig yr haf hwn

0
237
Capsiwn: Bydd y teithiau arbennig yng Nghastell Caeriw yn rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau yr haf hwn.

Dros y misoedd nesaf bydd cyfres o deithiau arbennig yn rhoi cipolwg i ymwelwyr o fywyd yng nghastell canoloesol cadarn Castell Caeriw.

Gyda’r hanes cyfoethog a’r nodweddion pensaernïol canrifoedd oed, bydd y pum taith dywys yn rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro; sydd ar agor bob dydd drwy gydol yr haf.

Caiff y teithiau eu cynnal yn ystod yr oriau agor a byddant yn cael eu cynnig am ddim gyda’r tâl mynediad arferol. Codir tâl ychwanegol am deithiau gyda’r nos.

Ddydd Iau 13 Gorffennaf am 2.30pm, gall ymwelwyr edrych ymlaen at fod yn rhan o Daith o amgylch yr Ardd yn rhad ac am ddim. Fel rhan o’r daith bydd tywysydd gwybodus yn rhoi cyflwyniad i chi i’r gwelyau perlysiau coginio, lliwio, meddyginiaethol a phersawrus a chewch gipolwg diddorol ar y defnydd o berlysiau mewn hanes.

I’r rhai sydd â diddordeb yn y gwaith ymarferol o adeiladu castell, rydyn ni’n eich annog i ymuno ag un o’n teithiau Cyfrinachau Adeiladu’r Castell. Bydd y teithiau hyn yn cael eu cynnal am 2.30pm ar ddydd Iau 6 Gorffennaf, 7 Medi a 5 Hydref, a byddant yn canolbwyntio ar hen dechnegau adeiladu a nodweddion pensaernïol cudd y cestyll hynafol hyn.

Mae’r Teithiau Ysbrydion hynod boblogaidd hefyd yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn, gan roi’r cyfle i ymwelwyr ddysgu am ochr dywyll bywyd y Castell. Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal nos Iau 20 Gorffennaf am 8pm, a bydd y digwyddiadau eraill yn cael eu ar 10 Awst am 7.30pm a 24 Awst am 7pm. Ceir hanesion arswydus a chythryblus am ysbrydion a fydd yn rhoi ias i lawr eich cefn.

Bydd Teithiau Min Nos o amgylch y Castell yn cael eu cynnal nos Iau 27 Gorffennaf am 8pm, nos Iau 17 Awst am 7.15pm a nos Iau 31 Awst am 6.45pm. Gan wneud y mwyaf o’r heddwch a’r tawelwch ar ôl i ddrysau’r Castell gau am y dydd, bydd y teithiau cerdded hyn yn canolbwyntio ar esblygiad Castell Caeriw o’r gaer Geltaidd i’r castell Canoloesol, y cadarnle Tuduraidd a’r plasty Elisabethaidd – yn ogystal â hanesion am rai o’i thrigolion enwog a lliwgar.

Mae profiad newydd ar gael yng Nghastell Caeriw eleni, sef y Te Prynhawn a Thaith o amgylch y Castell. Er nad oes tocynnau ar ôl ar gyfer mis Mehefin, mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer y daith ddydd Sadwrn 16 Medi am £20 yr oedolyn a £14 y plentyn (4-16). Yn ogystal â chyfle i fwynhau brechdanau ffres, cacennau cartref blasus a phaned o de neu goffi yn yr Ardd Furiog, mae’r profiad hefyd yn cynnwys taith unigryw o amgylch y Castell a chyfle i ddysgu am ei hanes arbennig.

 Cofiwch y codir tâl ychwanegol ar gyfer Teithiau Ysbrydion, Teithiau Min Nos, a’r Te Prynhawn a Thaith o amgylch y Castell, ac mae’n hanfodol eich bod yn archebu eich lle.  Mae modd archebu tocynnau ar-lein yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

I gael rhagor o wybodaeth a rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf ac wedyn, codwch gopi o Arfordir i Arfordir neu ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle