Brawd a chwaer yn ymgymryd â her Penwythnos Cwrs Hir er budd elusen

0
235
Alfie and Amelie Hall

Mae’r brawd a chwaer Alfie ac Amelie Hall yn bwriadu ymgymryd â her LCKinder yn ystod Penwythnos Cwrs Hir i godi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Mae’r LCKinder Splash ‘N’ Dash yn digwydd ar 30 Mehefin 2023 ac mae’n gweld y cyfranogwyr yn rhedeg a syrffio ar draws Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod gyda thorfeydd enfawr yn eu cefnogi yr holl ffordd i’r llinell derfyn.

 Penderfynodd y ddau gymryd rhan yn y digwyddiad gan fod Alfie ar hyn o bryd yn derbyn gofal a chefnogaeth anhygoel gan staff Ysbyty Glangwili.

 Dywedodd Alfie: “Rydw i yn Glangwili ar hyn o bryd yn cael llawdriniaeth gan fod gen i fysedd traed heintiedig. Maen nhw wedi bod yn fy nhrin yn anhygoel o dda, hyd yn oed ar ôl fy nghais digywilydd am grempogau i frecwast, a wnaeth i’r Nyrsys chwerthin”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Alfie ac Amelie am benderfynu cymryd rhan ym Mhenwythnos y Cwrs Hir eleni i godi arian ar gyfer ein helusen. Gan ddymuno pob lwc i chi’ch dau!

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Gallwch gyfrannu at godwr arian Alfie ac Amelie yn:https://www.justgiving.com/page/joanna-hall-1685642926245

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle