Lansio Strategaeth Arloesi ar gyfer Sir Gaerfyrddin

0
264
Innovation Strategy Launch event - Cllr Gareth John

Mae’r Strategaeth Arloesi ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi cael ei lansio gan bartneriaid, ym Mharc y Scarlets.

Croesawodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS; Is-ysgrifennydd Gwladol Senedd y DU, y Gweinidog James Davies, partneriaid a rhanddeiliaid i’r digwyddiad.

Cynhaliwyd yr adroddiad a gomisiynwyd, Archwilio’r rhagolygon arloesi ar gyfer Sir Gaerfyrddin, gan Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesi Prifysgol Caerdydd gyda’r nod o nodi cynigion i gefnogi adfer ac ailstrwythuro economi Sir Gaerfyrddin drwy arloesi.

Mae ffocws y strategaeth ym meysydd yr Economi Sylfaenol; Iechyd a llesiant; Arloesi Digidol ac Economi Gylchol.

Roedd y digwyddiad lansio yn gyfle i bartneriaid glywed am y weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin a sut y gall eu cefnogaeth sicrhau bod y weledigaeth yn cael ei gwireddu.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Hoffwn ddiolch i Brifysgol Caerdydd am y Strategaeth Arloesi fanwl a gweledigaethol. Nid ydym yn ddieithriaid i arloesi yma yn Sir Gaerfyrddin ac mae’n dda gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

“Mae llawer i fod yn optimistaidd am ddyfodol Sir Gaerfyrddin. Mae mentrau arloesol fel ein Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd, ein Cynllun Iechyd ac Arloesi – sy’n cynnwys datblygu cyfleuster Pentre Awel, a gwella ein seilwaith digidol a 5G, trwy brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn rhai pethau y byddwn yn eu cyflawni gyda’n partneriaid dros y blynyddoedd nesaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle