Trefnodd Joanne Scott a’i mam, Raydene, noson bingo a chodwyd £1,300 gwych i Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg.
Trefnwyd y noson bingo, a gynhaliwyd yn y Black Rabbit Club ym Mhenfro, i ddiolch am y gefnogaeth a’r driniaeth wych a ddarparwyd gan y ward i chwaer Joanne, Lisa.
Dywedodd Joanne: “Aeth y noson bingo yn dda iawn, roedd 80 o bobl yn bresennol, roedd yn rhaid i ni hyd yn oed droi pobl i ffwrdd! Rhoddwyd 60 o wobrau gan siopau lleol, busnesau, teulu a ffrindiau.
“Rydw i eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Shelley, Mike, yr holl siopau, busnesau lleol a’n teulu a’n ffrindiau am gefnogi’r digwyddiad. Dwi hefyd eisiau dweud diolch arbennig i Mam, Dad, Lisa a Sarah am helpu ar y noson.
“Fe wnaethon ni ddewis achosion sy’n agos at ein calonnau ac eisiau gwneud rhywbeth i helpu eraill yn ein sefyllfa ni. Diolch i bawb a helpodd i godi’r swm gwych hwn.”
Dywedodd Lynette Herritty, Uwch Brif Nyrs: “Gan holl staff ar Ward 10 diolch yn fawr iawn i Joanne, Raydene a phawb a gefnogodd y noson bingo.
“Diolch am eich holl amser ac ymdrech i helpu i godi swm anhygoel i’r ward. Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion a’u teuluoedd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle