- Mae ymchwil yn dangos bod 22% o bobl yng Nghymru yn cyfaddef iddynt fflysio weips i lawr y toiled
- Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi dweud eu bod yn poeni am ddiogelu’r amgylchedd – 91%, llygru afonydd a moroedd – 92%, ac amddiffyn anifeiliaid – 94%
- Weips gwlyb yw prif achos tomenni saim sy’n blocio systemau carthffosiaeth, ac maent yn cyfrannu’n fawr at sbwriel mewn afonydd.
- Mae Dŵr Cymru’n annog y cyhoedd i “Stopio’r Bloc” trwy daflu weips ac eitemau mislif i’r bin
Mae arolwg diweddar gan Water UK wedi datgelu bod mwy nag o bob pump (22%) o bobl Cymru’n cyfaddef iddynt fflysio weips gwlyb i lawr y toiled.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi dweud eu bod yn poeni am ddiogelu’r amgylchedd (91%), llygredd afonydd a moroedd (92%), a diogelu anifeiliaid (94%).
Gall fflysio weips achosi niwed amgylcheddol difrifol ac maent ymhlith prif achosion y ‘tomenni saim’ sy’n blocio carthffosydd gan achosi llifogydd mewn cartrefi a busnesau. Mae tua 300,000 o garthffosydd yn cael eu blocio ledled y DU bob blwyddyn, gan gostio tua £100 miliwn i’r diwydiant dŵr.
Maent hefyd ymhlith prif achosion llygredd yn ein moroedd ac yn niweidio bywyd gwyllt wrth iddynt fynd yn sownd y tu mewn i anifeiliaid, gan arwain at newyn ac yn eu lladd yn y pen draw.
Dywedodd Delme Williams, Arweinydd Gwella Busnes Dŵr Cymru: “Yn Dŵr Cymru rydym yn gweithio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i ddosbarthu dros 800 miliwn litr o ddŵr yfed glân a diogel bob dydd. Bob blwyddyn, rydyn ni’n clirio cannoedd ar filoedd o flociadau, sydd wedi eu hachosi gan eitemau na ellir eu fflysio, fel cewynnau, weips, eitemau mislif a mwy, o’n carthffosydd.”
Mae tua 90% o weips yn cynnwys plastig o ryw fath. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn dadelfennu mewn carthffosydd, yn wahanol i bapur tŷ bach. Yn hytrach, gallant fynd yn sownd a dod yn un o brif gynhwysion y “tomenni saim” sy’n blocio carthffosydd gan arwain at lygredd a llifogydd. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn golygu bod angen defnyddio gorlifoedd storm yn amlach, gan arwain at lygredd mewn afonydd.
A hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddo i fynd heibio i’r tomenni saim, gall weips olchi allan i’r amgylchedd, gan wasgaru plastig llygredig i afonydd ar draethau, a pheryglu bywyd gwyllt.
Ychwanegodd Delme Williams, Arweinydd Gwella Busnes Dŵr Cymru: “Mae’n siomedig clywed, trwy’r arolwg a gynhaliwyd gan Ddŵr Cymru, bod ein cwsmeriaid sy’n debygol o fflysio weips niweidiol i lawr y toiled wedi cynyddu 66% yn y pedwar mis diwethaf, o gymharu â Gorffennaf – Hydref 2022.
“Mae ein hymgyrch Stop Cyn Creu Bloc yn ceisio addysgu pobl yng Nghymru am y problemau y gall fflysio’r pethau anghywir i lawr y toiled eu hachosi, a’u hysbrydoli i gael gwared ar gynnyrch mewn ffordd briodol er mwyn osgoi rhwystrau cas sy’n niweidiol i gartrefi a’r amgylchedd.”
Dylai cwsmeriaid gofio fflysio’r tri P yn unig – pi-pi, pŵ a papur – i atal rhwystrau cas a allai achosi llifogydd mewn cartrefi, busnesau a gerddi.
Yn ddiweddar, bu cydweithwyr o Ddŵr Cymru’n ymweld ag Aberteifi a Llandudoch i siarad â’r cyhoedd am sut i stopio’r bloc.
Bydd y tîm allan eto yng nghanol tref Aberaeron rhwng 10am a 1pm dydd Llun, 26 Mehefin i siarad â’r cyhoedd am sut y gallant helpu i stopio’r bloc ac atal llifogydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dwrcymru.com/cy-gb/stop-the-block
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle