Mae St John Ambulance Cymru yn arwain y ffordd mewn menter gofal iechyd sy’n torri tir newydd.

0
236

Mae St John Ambulance Cymru wedi’u comisiynu i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn prosiect ‘Ward Rithwir’ gydag Ymatebwyr Lles Cymunedol. Bydd y cynllun yn gweld gwirfoddolwyr cymwys yn gweithredu fel ymatebwyr cyntaf i alwadau 999, i helpu i leddfu pwysau ar y GIG.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar helpu i ddarparu mwy o wybodaeth i glinigwyr ar gyfer pobl sydd wedi ffonio 999 ac sy’n aros am ymateb. Bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn pedwar bwrdd iechyd i ddechrau – Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan, Hywel Dda a Bae Abertawe. Bydd gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn cefnogi clinigwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wella eu gallu i wneud penderfyniadau clinigol o bell, gan roi’r wybodaeth glinigol ddiweddaraf iddynt i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus ac i roi mynediad mwy priodol i ddewisiadau gofal i gleifion yn ein cymunedau.

Bydd y cynllun yn cael ei gydlynu gan Ganolfan Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a fydd yn asesu galwadau ac yna’n hysbysu Ymatebwyr Lles Cymunedol St John Ambulance Cymru am ddigwyddiadau lle mae cyfleoedd i ddarparu gofal yn nes at y cartref, neu wella profiad cleifion. Byddai’r Ymatebwyr Lles Cymunedol wedyn yn mynychu’r lleoliad ac yn asesu’r claf, gan fwydo’r wybodaeth yn ôl i glinigwyr yn y Ganolfan Cyswllt Clinigol a fydd yn penderfynu ar y camau gweithredu gorau i’r claf.

Nod y cynllun yw cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a lleihau amseroedd aros drwy ymateb i alwadau lle nad oes angen cludo ambiwlans i adran achosion brys o bosibl, a bydd arsylwadau cleifion ychwanegol o’r lleoliad yn galluogi clinigwyr o bell i benderfynu cynllun triniaeth mwy priodol. Mae hyn yn galluogi cleifion i aros gartref lle bo’n briodol a chael eu hasesu’n gyflymach gan leihau’r straen ar Adrannau Achosion Brys, lle nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd Benjamin Savage, Prif Swyddog Gweithredu, yn St John Ambulance Cymru, “Mae hwn yn brosiect mor anhygoel, ac rydym mor falch o fod yn rhan ohono.

Ar adeg o bwysau aruthrol ar ein gwasanaethau gofal iechyd, sy’n debygol o gynyddu i mewn i misoedd y gaeaf, mae’n bwysicach nag erioed ein bod, lle bo modd, yn cadw pobl allan o’n hysbytai mewn modd diogel a rheoledig, ac yn caniatáu i’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ymateb i’r bobl sydd â’r angen mwyaf difrifol.

Rydym yn edrych ymlaen at weld potensial y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan a fydd yn caniatáu inni fyw ein gweledigaeth i fod yno i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r prosiect peilot hwn yn datblygu a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar y bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o rywbeth mor arloesol ac sy’n torri tir newydd.”

 Ers lansio’r cynllun peilot, mae dangosyddion cynnar eisoes yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn ei chael ar leihau’r angen am ambiwlans mewn achosion llai brys. Y gobaith yw, yn dilyn gwerthusiad parhaus, y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gefnogi’r pwysau cynyddol a roddir ar y Gwasanaeth Ambiwlans ac ysbytai Cymru yn ystod cyfnod y gaeaf a thu hwnt.

Rydym bob amser yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr newydd i gefnogi ein gwaith ledled Cymru. Os hoffech chi wirfoddoli i St John Ambulance Cymru cofrestrwch eich diddordeb yn Cofrestru – St John Ambulance Cymru – Gwasanaethau Aelodau (sjaw.org.uk) neu e-bostiwch peopleservices@sjacymru.org.uk .


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle