Yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn rhoi cyfle i fwynhau brecwast busnes a chnoi cil

0
245
Capsiwn: Llwyddiant ysgubol oedd Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Busnes cyntaf erioed Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.

Cynhaliwyd Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Busnes cyntaf erioed Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yr wythnos diwethaf, gan ddod â grŵp amrywiol o fusnesau ac enterpreneuriaid lleol at ei gilydd.

Noddwyd y digwyddiad gan South Hook LNG, a bu’n llwyddiant ysgubol. Roedd y digwyddiad wedi darparu cyfleoedd i rwydweithio ac wedi rhoi cyfle i ddysgu am waith un o elusennau mwyaf newydd Sir Benfro.

Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Emma Thornton, Prif Weithredwr Croeso Sir Benfro; Lucie Macleod, sylfaenydd y brand gofal gwallt feiral Hair Syrup; a Tom Bean, Parcmon Addysg ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Joanne Griffiths, a ddaeth i’r brecwast: “Oherwydd fy mod i’n gweithio yn Arberth i fusnes byd-eang, roeddwn i’n falch iawn o gael rhwydweithio mewn digwyddiad ar gyfer busnesau lleol.

Capsiwn: Llwyddiant ysgubol oedd Digwyddiad Rhwydweithio Brecwast Busnes cyntaf erioed Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.

“Roedd y siaradwyr gwadd yn canolbwyntio ar fuddsoddi’n lleol yn ein hysgolion, ar sut rydyn ni’n gweithio i ddenu a chynyddu nifer y twristiaid ac ar sut mae entrepreneur ifanc o Sir Benfro wedi llwyddo i adeiladu busnes byd-eang drwy ddefnyddio TikTok fel llwyfan i lansio ac ehangu!

“Roedd hyn i gyd ar garreg ein drws – cefais fy ysbrydoli gan y digwyddiad.”

Ychwanegodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Cawsom ymateb aruthrol i’n digwyddiad rhwydweithio cyntaf. Roedd llawer o bobl wedi dod i’r digwyddiad, ac roedd busnesau ar draws Sir Benfro yno i gysylltu ac i gael gwybod mwy am yr Ymddiriedolaeth a’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n tri siaradwr gwadd, a fu’n ysgogi pawb ac yn arddangos amrywiaeth o syniadau cyffrous i ddatblygu busnes.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn 2018 i ddiogelu tirwedd eiconig y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth Elusennol, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle