Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn yn galw am ‘Oedi ac Adolygu’ i gynlluniau’r Swyddfa Gartref i letya ceiswyr lloches mewn Gwesty yn Llanelli wrth i densiynau godi yn lleol
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi ysgrifennu ail lythyr heddiw (13 Gorffennaf 2023), at yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braveman AS, yn galw am ‘oedi ac adolygu’ i gynlluniau’r Swyddfa Gartref i letya ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.
Daw galwad y Comisiynydd yn dilyn tensiynau difrifol a chynyddol yn yr ardal sy’n achosi pryderon diogelwch i drigolion lleol a a chontractwyr ar y safle. Mae yna hefyd anghydfodau cyfreithiol yn digwydd dros berchnogaeth tir o amgylch ffiniau tiroedd y gwesty, sy’n ychwanegu at gymhlethdod y sefyllfa ac yn cynyddu’r pwysau ar swyddogion yr Heddlu.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae angen dybryd i’r Swyddfa Gartref oedi ac adolygu’r broses o wasgaru ceiswyr lloches i Westy Parc y Strade, Llanelli, er mwyn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau lleol ac i fynd i’r afael â’r tensiynau difrifol a chynyddol posibl.
“Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod camau cyfreithiol a ‘gwaharddeb’ wedi’u cyflwyno mewn perthynas â mynedfa anghyfreithiol honedig, sydd wedi’i chreu ar ochr tir y Gwesty. Mae anghydweld amlwg a chwestiynau dros hawl cyfreithiol contractwyr preifat a gyflogir gan y Swyddfa Gartref i gael mynediad i’r safle; mae hyn wedi cynyddu tensiynau cymunedol ac wedi arwain at bresenoldeb sylweddol iawn gan yr Heddlu yn y lleoliad ers dydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.
“Mae’r ardal wedi cael ei phlismona’n barhaol ers dydd Sul 9 Gorffennaf ac mae nifer o bobl wedi’u harestio. Bu’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys dynnu ar adnoddau o bob rhan o ardal yr Heddlu i reoli’r sefyllfa hynod anodd hon. Nid yw hyn yn gynaliadwy, ac maent yn asesu galluoedd staffio a lles swyddogion yn barhaus, a fydd yn debygol o arwain at dynnu swyddogion o’r lleoliad yn fuan.
“Mae’n dod yn sefyllfa gynyddol anodd i’w llywio a’i rheoli o safbwynt Plismona”.
Yn ei lythyr at y Swyddfa Gartref, mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn hefyd yn nodi bod y Swyddfa Gartref yn mynd yn groes i strategaeth Llywodraeth Cymru i letya ceiswyr lloches, sef I gartrefu pobl mewn model gwasgaredig.
Yn ei lythyr at y Swyddfa Gartref, mae CHTh Dafydd Llywelyn yn nodi; “Rwy’n ail bwysleisio yr hyn a nodais yn fy llythyr blaenorol, fy nghefnogaeth i strategaeth Llywodraeth Cymru, sef cartrefu pobl mewn model gwasgaredig. Mae hyn yn gynaliadwy wrth gynnig ateb tymor hir i geiswyr lloches yn ardal Dyfed-Powys. Mae’n fodel y mae pobl Cymru yn ei gefnogi, wedi’i gofleidio ac wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus i ailsefydlu ceiswyr lloches Syria, Afghanistan, Wcrain a chyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r penderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Gartref yn gwrthdaro’n uniongyrchol â hyn. Nid yw’r model o letya niferoedd mawr o geiswyr lloches mewn un safle dwys yn ffordd briodol o letya pobl sy’n ceisio lloches.
“Mae’n siomedig gweld unwaith eto diffyg ymgysylltu lleol neu unrhyw fath o ymgynghori gan y Swyddfa Gartref gyda darparwyr gwasanaethau lleol i ddeall effaith lleoli dros 200 o geiswyr lloches ar y safle, sydd wedi arwain at roi pwysau diangen ar adnoddau lleol a darparwyr gwasanaethau.”
“Byddwn yn ailadrodd ymhellach bwysigrwydd cyfathrebu rhagweithiol gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â’r mater hwn, gyda darparwyr gwasanaethau lleol a chyda’r cyhoedd“.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle