Cwmni o Sir Benfro yn ariannu diffibriliwr newydd ar gyfer y gymuned leol

0
187
Some Dyfed County volunteers at the recent Long Course weekend event in Pembrokeshire.

Yn ddiweddar, mae’r cwmni teuluol Evan Pritchard Contractors Ltd, o Sir Benfro, wedi rhoi £1000 hael i brif elusen cymorth cyntaf Cymru, St John Ambulance Cymru, i gefnogi eu gwaith achub bywyd mewn cymunedau ledled Cymru. Gwnaed y rhodd i ariannu diffibriliwr newydd ar gyfer yr ardal. Bydd gwirfoddolwyr yn dod â’r diffibriliwr hwn i ddigwyddiadau ledled Gorllewin Cymru gan sicrhau, mewn argyfwng, fod darn o offer a allai achub bywydau gerllaw.

Mae gan y teulu Pritchard gysylltiad personol ag achos St John Ambulance Cymru, ar ôl i aelod o’r teulu gael ei drin gan ddefnyddio diffibriliwr yn y gorffennol. Mae St John Ambulance Cymru yn eiriolwyr enfawr dros ymwybyddiaeth a mynediad i ddiffibrilwyr, gan weithio i gynyddu hyder ac addysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr.

Yn dilyn ataliad ar y galon, mae siawns person o oroesi yn cael ei leihau 10% am bob munud sy’n mynd heibio heb weithredu. Po gyflymaf y mae diffibriliwr ar y safle, y mwyaf o siawns y bydd bywyd rhywun yn cael ei achub.

Bydd rhodd Evan Pritchard Contractors LTD yn mynd tuag at gadw pobl leol Sir Benfro yn ddiogel, gan ddarparu darn o offer achub bywyd i wirfoddolwyr St John Ambulance Cymru lleol. Dywedodd Mathew Pritchard, Rheolwr Gyfarwyddwr Evan Pritchard “gobeithiwn y bydd y rhodd hon yn helpu i wneud Sir Benfro yn lle mwy diogel i bawb.

Gall diffibrilwyr olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, felly rydym yn hapus i ariannu’r darn hanfodol hwn o offer.”

Mae gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn darparu cefnogaeth yn rhai o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Gorllewin Cymru, ynghyd â digwyddiadau llai a arweinir gan y gymuned. Gyda chymorth rhoddion gan grwpiau cymunedol a busnesau, gall yr elusen barhau i wneud cymunedau yng Nghymru yn lleoedd mwy diogel i bawb.

Os hoffech gael gwybod sut y gallwch godi arian ar gyfer St John Ambulance Cymru, yna ewch i www.sjacymru.org.uk/fundraising neu cysylltwch â’r tîm codi arian drwy ffonio 029 2044 9626 neu drwy e-bost: fundraising@sjacymru.org. uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle