Dros 100 o blant i fynychu Gwersylloedd Haf yr Urdd drwy nawdd Cronfa Cyfle i Bawb

0
218

Eleni bydd dros 100 o blant a phobl ifanc Cymru yn mynd ar eu gwyliau haf – a’r gwyliau cyntaf erioed i rai – diolch i Gronfa Cyfle i Bawb Urdd Gobaith Cymru.

Eleni derbyniodd yr Urdd y nifer fwyaf erioed o geisiadau ers sefydlu’r cynllun yn 2019.  Mae Cronfa Cyfle i Bawb yn gynllun arbennig sydd yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol i fynychu Gwersyll Haf yng Ngwersylloedd Glan-llyn, Llangrannog neu Gaerdydd.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:  “Mae mynd ar wyliau haf yn rhywbeth mae llawer yn ei gymryd yn ganiataol, ond mae llawer o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi neu mewn amgylchiadau lle nad oes cyfle i gael gwyliau Haf.  Mae’r Urdd – a’r Gymraeg – yn perthyn i bawb, ac mae’n flaenoriaeth gennym fel Mudiad i estyn allan a sicrhau bod cyfleodd ar gael ac yn cael eu cynnig i bob plentyn yng Nghymru.

“Mae Cronfa Cyfle i Bawb yn gyfle i blant o deuluoedd sydd yn profi tlodi neu fywyd heriol i ymuno mewn Gwersyll Haf yr Urdd.  Diolch i gwmnïau a chefnogwyr sy’n cyfrannu i’r gronfa, eleni bydd plant o deuluoedd a’r incwm isel neu o dan adain gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr ifanc, plant maeth, a phlant sydd yn profi neu wedi dianc o gartrefi treisgar fwynhau gwyliau Gwersyll Haf.”

Dywedodd Diana Lewes-Gale, o adran Gofal Cymdeithasol Ceredigion: “Mae plant bregus Ceredigion wedi bod yn ffodus iawn i gael mynediad i Gronfa Cyfle i Bawb ac mae wedi galluogi ein plant i fynychu ac aros yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Mae wedi rhoi cyfle iddynt feithrin perthynas iach â staff ac mae wedi dod yn lle diogel iddyn nhw. Mae’r gweithgareddau bob amser yn boblogaidd ac mae’n hyfryd gweld sut maen nhw’n magu hyder ac yn hapus i roi cynnig ar bethau newydd. Mae gweld eu hwynebau pan fyddant yn cyrraedd nod yn wych ac maent wedi gwneud atgofion hapus y byddant yn eu trysori am byth. Mae bod allan yn yr awyr agored, cael y cyfle i ymweld â’r traeth leol a defnyddio eu sgiliau Cymraeg wedi cryfhau eu hunaniaeth. Diolch enfawr i bawb yn Urdd, Llangrannog.”

Eleni mae 11 o Wersylloedd Haf yn cael eu cynnal yng Ngwersyll Glan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd. Mae’r cyrsiau yn cynnwys cwrs perfformio, cwrs cerddoriaeth, gwersyll i ddysgwyr yn ogystal â gwersylloedd antur a gwersylloedd Haf traddodiadol i blant rhwng 8-15 oed.

Gall unrhyw un gefnogi a chyfrannu unrhyw swm tuag at Gronfa i Bawb, a gall cyfraniad o £150 noddi un plentyn.  Ym mis Mai cerddodd Walter May, sylfaenydd cwmni GlobalWelsh, a’i ffrindiau 196 o filltiroedd dros gyfnod o bythefnos ar hyd arfordir Portiwgal i godi arian i’r gronfa. Gyda chefnogaeth Mistar Urdd ar hyd y daith, cododd y pedwar dros £3,200 – cyfanswm fydd yn galluogi dros 20 o blant i brofi a mwynhau gwersyll haf yn y dyfodol.

Mae cyfnod ceisiadau Cronfa Cyfle i Bawb wedi cau am eleni, ond gall plant a phobl ifanc dal gofrestru i fynychu un o Wersylloedd Haf yr Urdd ar: www.urdd.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle