Gofynnir i rieni a gwarcheidwaid plant a phobl ifanc wirio cofnodion brechu eu plentyn yr haf hwn.
Bydd clinigau galw heibio dal i fyny yn cael eu cynnal ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yr haf hwn ar gyfer pob brechiad plentyndod.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae imiwneiddio yn bwysig i blant oherwydd ei fod yn helpu i ddarparu imiwnedd cyn dod i gysylltiad â chlefydau a allai beryglu bywyd.
“Mae imiwneiddio wedi helpu i gael gwared o rai clefydau gwanychol difrifol iawn. Mae’r frech wen, er enghraifft, bellach wedi’i dileu diolch i frechlynnau.
“Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael mynediad hawdd at eu brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu ac felly rydym yn falch o gynnig y sesiynau galw heibio hyn.”
Rhaid i riant neu warcheidwad sy’n gallu rhoi caniatâd fod yn bresennol gyda’r
plentyn/plant.
Cynhelir apwyntiadau a sesiynau galw heibio i blant 5 i 17 oed yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 11.00am – 1.00pm (Galw heibio yn unig) yn ‘The Table’, Rhodfa Myrddin, Caerfyrddin (drws nesaf i Poundland)
- Dydd Mawrth 8 Awst 12.00pm – 6.00pm yn Hyb Neyland, Canolfan Frechu Neyland vaccina, Uned 1, Parc Honeyborough, Neyland, Sir Benfro, SA73 1SE
- Dydd Merched 9 Awst 12.00pm – 6.00pm mewn 2 leoliad:
Hyb Dafen, Uned 2a, Ystad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, Llanelli SA14 8QW
Hyb Trewen, Ysgol Trewen, Cwm-Cou, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE
- Dydd Iau 17 Awst 12.00pm – 6.00pm yn Canolfan Integredig , Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth, SY23 1SH
Mae croeso i rieni sydd ag ymholiadau am unrhyw agwedd o imiwneiddiadau eu plentyn alw i mewn am sgwrs anffurfiol neu ffonio’r rhif isod.
Ffoniwch 0300 303 8322 Opsiwn 1 os hoffech drefnu apwyntiad, fel arall gallwch alw i mewn i’r clinigau. Fodd bynnag, nodwch y bydd y rhai ag apwyntiadau yn cael eu blaenoriaethu yn ystod cyfnodau prysur.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle