Pob un o dri pharc gwledig Cyngor Sir Gâr yn ennill statws y Faner Werdd

0
214
Y Faner Werdd Mynydd Mawr Green Flag

Gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Parc Gwledig Pen-breParc Gwledig Llyn Llech Owain ac, am y tro cyntaf, Parc Coetir y Mynydd Mawr i gyd wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd am 2023/24.

Mae’r wobr hon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn nod ansawdd i barciau a mannau gwyrdd sydd ar gael i’r cyhoedd o amgylch y byd.

Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrau yn cael ei redeg gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r parciau hyn ar agor i’r cyhoedd brofi harddwch naturiol y sir, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ymwelwyr ymgolli ym myd natur drwy ystod eang o weithgareddau hamdden.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n tîm ymroddedig, ein gwirfoddolwyr brwd a’n hymwelwyr sy’n ei gwneud yn bosibl i ni ennill y gwobrau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill Gwobr y Faner Werdd am dri o’n mannau gwyrdd hardd.”

“Yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn ffodus i gael y mannau hyn ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil y gwobrau hyn.”

I gael gwybodaeth am bethau i’w gwneud ym Mharc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Parc Coetir y Mynydd Mawr a lleoliadau poblogaidd eraill ar draws Sir Gaerfyrddin, ewch i Pethau i’w gwneud – Traeth a Pharc Gwledig Pen-bre.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle