Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno â Pride Llanelli 2023

0
289
Llanelli Pride

Ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â dathliadau lliwgar Pride Llanelli ddydd Sadwrn, Gorffennaf 15fed.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd yr hyn y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ei wneud ac maent yn werthoedd sy’n greiddiol i’n prosesau, arferion a diwylliant. Felly, roedd yn bleser cefnogi ac ymuno â dathliad blynyddol Pride Llanelli o’r gymuned LHDTC+, a oedd yn cynnwys gorymdaith trwy ganol y dref yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau, stondinau ac adloniant yng Nghanolfan Selwyn Samuel.

Yn rhan o Orymdaith Pride Llanelli oedd Injan Dân Pride y Gwasanaeth, aelod lliwgar o fflyd hyfforddi’r Gwasanaeth, ac roedd aelodau o’r Tîm Diogelwch Cymunedol yno hefyd.  Er gwaetha’r glaw trwm, roedd gwên ar wynebau pawb oedd yn cymryd rhan yn yr orymdaith wrth iddynt chwifio baneri enfys y Gwasanaeth.

Yn dilyn yr orymdaith, roedd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol y Gwasanaeth a chriw Gorsaf Dân Llanelli wrth eu stondin yng Nghanolfan Selwyn Samuel i gynnig cyngor a gwybodaeth ar ddiogelwch tân, yn ogystal â nwyddau Pride y Gwasanaeth.

Yn ogystal ag aelodau o gymuned Llanelli, cafodd y tîm hefyd gyfle i groesawu Maer Tref Llanelli, y Cynghorydd Nicholas Pearce, i’w stondin.

Maer Tref Llanelli, y Cynghorydd Nicholas Pearce, yn ymweld â stondin Pride Llanelli GTACGC.

Edrychwn ymlaen at ymuno â Pride Llanelli 2024!


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle