HPAI: Gweinidog yn ymweld ag ynysoedd Sir Benfro wrth i bryder am achosion o ffliw adar gwyllt dyfu

0
214
Welsh Government Minister for Climate Change Julie James views Grassholm from an RSPCA boat after Pembrokeshire County Council confirms hundreds of dead wild sea birds have washed up on their beaches in recent days with suspected avian influenza. Grassholm is home to one of the world's most important gannet colonies. Gannets are recognised for their pale blue iris, which scientists have now discovered turns black in survivors of avian influenza. It is unknown, but hoped, that some immunity will be passed onto their young. Gannets live cheek to jowl in packed colonies and like many sea birds, have a low fecundity rate, meaning they may only rear one chick a year. Visible gaps on Grassholm reveal a decimated population, leaving concern over how well this iconic species will recover. Welsh Government Minister for Climate Change Julie James views Grassholm from an RSPCA boat after Pembrokeshire County Council confirms hundreds of dead wild sea birds have washed up on their beaches in recent days with suspected avian influenza. Grassholm is home to one of the world's most important gannet colonies. Gannets are recognised for their pale blue iris, which scientists have now discovered turns black in survivors of avian influenza. It is unknown, but hoped, that some immunity will be passed onto their young. Gannets live cheek to jowl in packed colonies and like many sea birds, have a low fecundity rate, meaning they may only rear one chick a year. Visible gaps on Grassholm reveal a decimated population, leaving concern over how well this iconic species will recover.

Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ag Ynys Dewi ac Ynys Gwales heddiw oddi ar arfordir Sir Benfro i asesu graddfa ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) sy’n effeithio ar nythfeydd adar môr gwyllt ledled y DU.

Mae Ynys Dewi ac Ynys Gwales yn gartref i rai o nythfeydd huganod pwysicaf y byd, gyda gwylogod, adar drycin Manaw, llursod a hebogiaid tramor hefyd yn nythu ar eu glannau.

Mae’r ymweliad, a drefnwyd gan RSPB Cymru, yn dilyn adroddiadau o garcasau adar a gafodd eu golchi i fyny ar draethau Sir Benfro, ac amheuir bod HPAI ar yr adar hynny.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd RSPB Cymru fod Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd, Gwylanod a Phalod wedi eu canfod yn farw yn arnofio mewn dyfroedd o amgylch Ynysoedd y Moelrhoniaid a Rhosneigr, Ynys Môn yn y Gogledd.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ac yn cwrdd â rhanddeiliaid yn wythnosol drwy Grŵp Ymateb i Argyfwng Adar y Môr sy’n dod â nifer o asiantaethau ynghyd i gadw golwg ar y sefyllfa sy’n esblygu’n barhaus.

Mae adar y môr yn tueddu i fyw yn agos iawn at ei gilydd mewn nythfeydd trwchus ac mae ganddynt gyfradd ffrwythlonder isel, sy’n golygu eu bod yn tueddu i fagu dim ond un cyw y flwyddyn.

Gall Ffliw Adar ledaenu drwy disian, baw, merddwr ac adar ysglyfaethus neu garthysyddion sy’n achub ar y cyfle i hela carcasau halogedig.

Mae hyn yn caniatáu i Ffliw Adar ledaenu’n gyflym drwy boblogaethau a symud rhwng nythfeydd, gan ei gwneud hi’n anoddach i’r rhywogaeth adfer.

Ym mis Hydref, yn sgil y risg gynyddol i ddofednod, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd roi Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ar waith a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid dofednod ledled Cymru gydymffurfio â mesurau bioddiogelwch llym i atal rhyngweithio a throsglwyddo haint posibl gan adar gwyllt.

Cafodd yr AIPZ ei godi ar 4 Gorffennaf ond mae ceidwaid dofednod yn cael eu hannog i gynnal mesurau bioddiogelwch llym drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’n dorcalonnus gweld ein hadar gwyllt rhyfeddol yn dioddef salwch mor ofnadwy.

“Hoffwn ddiolch i’r RSPB a’n holl asiantaethau sy’n gweithio’n ddiflino i fonitro’r sefyllfa, a’n hawdurdodau lleol, y gwirfoddolwyr ac APHA.

“Rwy’n gofyn i bawb yng Nghymru ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd a gwrando ar gyngor hefyd – peidiwch â chodi unrhyw adar sâl neu farw a chadwch gŵn ar dennyn i atal cyswllt.

“Yn hytrach, rhowch wybod i DEFRA ar unwaith ar wefan gov.uk neu drwy ffonio 03459 335577.”

Dywedodd Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru:

“Mae effaith ffliw adar ar boblogaethau adar y môr wedi bod yn ddinistriol. Mae’n pentyrru’r pwysau ar boblogaethau bregus ac mae’n ychwanegu at frys cynyddol cadwraeth o ran adar y môr. Yn anffodus, nid ffliw adar yw’r unig her sy’n wynebu adar y môr yng Nghymru. Mae effaith newid hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr hefyd yn gofyn am ymdrechion brys i gynyddu cydnerthedd adar y môr, boed hynny drwy gynllunio morol, bioddiogelwch a rheoli pysgodfeydd.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: “Nid yw ffliw adar wedi diflannu. Yn anffodus, mae’n parhau i gael ei ddarganfod yn y boblogaeth adar gwyllt,  yn enwedig ar Ynys Môn, aber afon Dyfrdwy ac arfordir Sir Benfro. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu farw, peidiwch â chyffwrdd â nhw a rhowch wybod i DEFRA amdanynt drwy’r gwasanaeth ar-lein.

“Os ydych yn geidwad adar, daliwch ati i fod yn wyliadwrus a chadwch y lefelau mwyaf trylwyr o hylendid a bioddiogelwch bob amser i amddiffyn eich haid rhag clefyd.”

a’u casglu, a dylent gadw eu cŵn ar dennyn er mwyn eu hatal rhag dod i gysylltiad.

Rhowch wybod i DEFRA drwy fynd i: Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu | LLYW.CYMRU

Dylech ddefnyddio’r system ar-lein (ar GOV.UK) neu ffoniwch linell gymorth DEFRA (03459 335577) os byddwch yn dod o hyd i unrhyw adar marw.

Dylid rhoi gwybod i’r RSPCA ar unwaith am adar sâl neu adar sydd wedi’u hanafu ar 0300 1234 999.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle