Mae Diogelwch Dŵr Cymru wedi ymuno â mam o Sir Benfro ar Ddiwrnod Atal Boddi’r Byd i helpu i atal teuluoedd eraill rhag ddioddef y drychineb y mae hi wedi’i ddioddef ar ôl colli ei mab. Daw’r cydweithredu hwn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru, RoSPA a Diogelwch Dŵr Cymru lansio adroddiad ar y cyd sy’n dangos y bu 62 o farwolaethau anfwriadol yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed rhwng 2013 a 2022
Wrth i ysgolion gau ar gyfer yr haf, mae Diogelwch Dŵr Cymru, sef cydweithrediad o ryw 40 o sefydliadau yng Nghymru sydd â wnelo â diogelwch dŵr, yn awyddus i addysgu teuluoedd ynglŷn â diogelwch dŵr. Fel rhan o’r strategaeth, cynhelir digwyddiad addysgol yn Llys-y-Frân ar Ddiwrnod Atal Boddi’r Byd, â’r nod o hybu ffordd ddiogel o ddefnyddio dŵr agored yr haf hwn.
O ystyried darganfyddiadau’r adroddiad mai boddi ydy’r peth mwyaf cyffredin ond un sy’n achosi marwolaethau o anafiadau anfwriadol ymhlith plant dan 18 oed yng Nghymru, ar ôl marwolaethau’n gysylltiedig â thrafnidiaeth1,, y gobaith ydy y bydd y digwyddiad yn dwyn sylw at y risgiau.
Bydd Carli Newell, mam 36 oed i ddau o fechgyn o Sir Benfro, a gollodd ei mab Zac Thompson a oedd yn 11 oed yn haf 2022, yn mynychu’r digwyddiad. Mae nawr wedi ymrwymo i weithio gyda Diogelwch Dŵr Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau.
Roedd Zac ar lan y môr gyda’i deulu a’i ffrindiau yn gwylio’r haul yn machlud yr haf diwethaf, pan ddaeth ton annisgwyl a’i ysgubo o dan y dŵr. Yn drist iawn, bu farw y diwrnod wedyn.
Meddai Carli, sydd wedi sefydlu elusen Forever11 i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr er cof am Zac:
‘Flwyddyn ymlaen, mae effaith marwolaeth Zac dal i’w theimlo yn ein cymuned. Mae gan bawb a oedd yn adnabod Zac atgofion annwyl ohono, gyda nifer o ornestau coffa’n cael eu cynnal mewn chwaraeon roedd yn eu caru, sef traddodiad a fydd yn para am flynyddoedd i ddod. Roedd gan Zac bersonoliaeth heintus; doniol, digywilydd, craff, caredig a hynod wrol. Er nad oedd yn rhyw dal iawn, roedd yn rhoi’r argraff ei fod yn fwy, gan ddenu pobl tuag ato.’
Mae Carli yn galw ar deuluoedd i flaenoriaethu diogelwch. Mae’n ychwanegu:
“Yng Nghymru rydyn ni wedi’n bendithio â thraethau, baeau, harbwrs, morlynnoedd a dyfroedd mewndirol ffantastig, ni allwn ni orbwysleisio arwyddocâd addysg a diogelwch dŵr o ran y camau priodol i’w cymryd mewn argyfwng. Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno yn yr adroddiad hwn yn dangos yn glir y gellir gwneud mwy i ostwng marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru a’u diogelu wrth iddyn nhw gael hwyl yn y dŵr a’i barchu. Rydw i’n annog pawb i ystyried beth mwy y gallan nhw ei wneud i helpu plant a phobl ifanc i fwynhau’r dŵr yn ddiogel.’
Mae’r adroddiad wedi dangos:
- Bod bron hanner yr holl farwolaethau’n digwydd yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst, ac mai dydd Sul oedd y diwrnod mwyaf cyffredin.
- Mai bechgyn oedd 79% o’r plant a’r bobl ifanc.
- Bod bron hanner y marwolaethau’n digwydd yn y grŵp oedran 18-24 oed, er bod y gyfran o’r bobl ifanc yn y grŵp oedran hwn yn cyfrif am lai na thraean o’r boblogaeth o blant a phobl ifanc 0-24 oed.
- Bod bron hanner y plant a’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lle nad oedden nhw wedi bwriadu mynd i mewn i’r dŵr pan ddigwyddodd y digwyddiad angheuol.
- Bod traen o’r marwolaethau wedi digwydd mewn afon a bod traean wedi digwydd ar yr arfordir, ar lan y môr neu ar y traeth.
Nododd Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru, Diogelwch Dŵr Cymru a RoSPA bump o farwolaethau plant dan 18 oed o foddi yn 2022, a oedd yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, a berodd iddyn nhw weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu’r adroddiad.
Meddai Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru:
“Nod yr adroddiad hwn ydy helpu i ddarparu sail ar gyfer gwaith ataliol gweithwyr diogelwch dŵr proffesiynol yng Nghymru i atal marwolaethau plant a phobl ifanc yn y dyfodol o ddigwyddiadau’n gysylltiedig â dŵr.
“Mae marwolaeth plentyn neu berson ifanc yn cael effeithiau dinistriol sy’n newid bywydau ar deuluoedd a’r gymuned ehangach. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Carli am ei chryfder a’i phenderfynoldeb i wneud gwahaniaeth mewn cof am Zac. Mae’n ddigon i’ch sobreiddio sylweddoli bod bron hanner y plant a’r bobl ifanc wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lle nad oedden nhw wedi bwriadu mynd i mewn i’r dŵr, yn union fel Zac pan ddigwyddodd y digwyddiad angheuol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd rhyddhau’r adroddiad hwn yn annog teuluoedd i fod yn ymwybodol o’r risgiau ac i gadw peryglon dŵr agored mewn cof.
Yn ystod y digwyddiad ar Ddiwrnod Atal Boddi’r Byd, bydd cynrychiolwyr Diogelwch Dŵr Cymru’n siarad ag aelodau’r cyhoedd i annog teuluoedd i roi cynnig ar chwaraeon poblogaidd fel Padlfyrddio ar Eich Sefyll a Nofio Mewn Dŵr Agored, gydag arbenigwyr wrth law i gynnig cyngor. Bydd yna arddangosiad hefyd gan XX, i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o rôl y gwasanaethau brys a sut i ymorol am eu help mewn argyfwng.
Llys y fran |
Mae Chris yn ychwanegu:
“Gyda gwyliau’r haf ar ddod, rydyn ni eisiau i bobl barhau i fwynhau’r dŵr, ond drwy ddwyn sylw at y risgiau, rydyn ni eisiau i bobl fod yn ymwybodol o’u hamgylchoedd, bod â’r offer cywir a gwybod yn union beth i’w wneud os y byddan nhw’n mynd i drafferthion.
Cyngor allweddol Diogelwch Dŵr Cymru ynglŷn â diogelwch i blant a phobl ifanc i’w gofio ydy:
- Stopiwch a meddwl: Ydy hwn yn lle diogel i nofio? Oes yna unrhyw beryglon o dan y dŵr? Oes yna ffrydiau cudd neu ddŵr sy’n llifo’n gyflym? Pa mor ddwfn ydy’r dŵr a gallwch chi ddod allan yn hawdd?
- Arhoswch gyda’ch gilydd: Ewch gyda rhywun arall bob amser
- Arnofiwch: Os y byddwch chi’n mynd i drafferthion yn y dŵr, cofiwch arnofio i fyw nes eich bod yn teimlo’n ddigyffro
- Ffoniwch 999 neu 112: Os y byddwch chi’n gweld rhywun arall mewn trafferthion yn y dŵr
Meddai Dr Rosalind Reilly, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Boddi ydy’r peth mwyaf cyffredin ond un sy’n achosi marwolaethau o anafiadau anfwriadol ymhlith plant dan 18 oed yng Nghymru, ar ôl marwolaethau’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
“Yn drist iawn, roedd yna bump o farwolaethau plant dan 18 oed yng Nghymru yn 2022, felly mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant (CDPR) wedi bod yn gweithio gyda Diogelwch Dŵr Cymru a RoSPA er mwyn cynhyrchu’r adroddiad hwn sy’n archwilio marwolaethau’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed rhwng 2013 a 2022.
“Mae adolygiadau blaenorol y mae’r CDPR wedi ymgymryd â nhw i farwolaethau trwy foddi wedi arwain at gymryd camau, gan gynnwys datblygu fforwm diogelwch dŵr ledled Cymru, sef Diogelwch Dŵr Cymru, sydd wedi datblygu amrywiaeth eang o weithgareddau atal boddi a diogelwch dŵr ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
“Yn amlwg, mae marwolaeth plentyn neu berson ifanc yn cael effeithiau dinistriol sy’n newid bywydau ar deuluoedd a’r gymuned ehangach. Bydd yr adroddiad hwn yn llywio gwaith gweithwyr diogelwch dŵr proffesiynol, er mwyn atal yr un peth rhag digwydd i eraill.”
Bydd chwaraewyr rygbi o dîm y Scarlets, Josh Macleod a Macs Page hefyd yn mynychu i helpu i roi’r gair ar led am bwysigrwydd negeseuon diogelwch dŵr.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle