Ariannu dyfodol byd natur: Ailagor cynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur

0
292
Capsiwn: Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn grantiau bach Gweithredu dros Natur ers lansio'r cynllun yn 2021.

Mae croeso i gyfathrebiadau, mudiadau a busnesau yn Sir Benfro gyflwyno cais i gynllun poblogaidd sy’n ceisio cefnogi cadwraeth gadarnhaol a gweithredu amgylcheddol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac o’i gwmpas.

Cafodd y cynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur ei sefydlu yn 2021 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Mae’n cynnig grantiau o hyd at £4,000 i brosiectau yn y gymuned leol sydd naill ai’n cefnogi bioamrywiaeth, yn creu mannau gwyrdd newydd, neu sy’n cyflawni ar gadwraeth neu newid hinsawdd.

Roedd nifer o ysgolion lleol a chlwb pêl-droed ymysg y grwpiau cymunedol a oedd wedi elwa o’r rownd ddiwethaf o gyllid. Roedd y prosiectau llwyddiannus yn cynnwys creu gerddi llesiant addas i fywyd gwyllt, adeiladu gwelyau uchel ar gyfer cynnyrch tymhorol, creu safle gweirglodd ac amrywiol gynlluniau adfer cynefinoedd.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn mae cymunedau lleol wedi’i gyflawni o ganlyniad i grantiau bach Gweithredu dros Natur. Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn y cynllun ers ei lansio ac mae’r amrywiaeth eang o brosiectau sydd wedi cael eu cynnal yn dangos ymrwymiad ac angerdd pobl sir Benfro i greu newid amgylcheddol cadarnhaol.”

10am ddydd Gwener 25 Awst yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud cyn pen pedair wythnos o’r dyddiad hwnnw.

Rhaid cwblhau’r prosiect erbyn dydd Mercher 28 Chwefror 2024, ac nid oes angen arian cyfatebol. Mae’r ffurflen gais ar gael, yn Gymraeg a Saesneg, drwy anfon neges at support@pembrokeshirecoasttrust.wales a dylid dychwelyd y ffurflenni i’r un cyfeiriad.

Daw’r cyllid ar gyfer y grant o’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (a weinyddir gan CGGC) gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ogystal â’r arian a godwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Gweithredu dros Natur, cofrestrwch i gael newyddion Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro drwy fynd i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/dechrau-sgwrs-gyda-ni/.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle