Agor gardd fyfyrio COVID-19 yn Ysbyty Tywysog Philip

0
234

 

Cafodd gardd fyfyrio newydd yn Ysbyty Tywysog Philip ei hagor yn swyddogol ddoe (dydd Mercher 26 Gorffennaf 2023). Mae’r ardd wedi’i hariannu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i goffau pandemig COVID-19.

Bydd yr ardd, sydd wedi’i lleoli ger ward 1 yn Ysbyty Tywysog Philip, yn le tawel a phreifat i gleifion a staff allu myfyrio a chofio.

Dywedodd Amber Bolt, Uwch Brif Nyrs: “Roedd pandemig COVID yn gyfnod anodd i ni i gyd. Bydd yr ardd yn caniatáu i unigolion gael gofod pwrpasol i fyfyrio ynddo.”

Cafodd cerflun gan Lee Odishow hefyd ei ddadorchuddio heddiw yn yr ardd newydd. Comisiynwyd y cerflun gan y fydwraig Sharon Geggus, claf COVID a gafodd ofal a thriniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r cerflun yn dal eiliad ingol yn ystod y pandemig pan welwyd claf a phlentyn yn ceisio cyfathrebu trwy ffenestr ysbyty.

Dywedodd Lee: “Mae’r ddelwedd fyw hon yn atseinio gyda ni i gyd, gan fod y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein heffeithio mewn rhyw ffordd gan y pandemig neu wedi gweld delweddau o natur debyg yn dominyddu’r cyfryngau yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Rwyf wedi mynd ati i ddal y foment hon gan gastio ffurf fy ffrind a fy mab, i ail-greu pob manylyn o’u breichiau a’u dwylo. Mae eu mynegfysedd yn ymestyn allan fel pe baent yn ceisio cyffwrdd ond yn cael eu hatal rhag cyswllt corfforol gan banel o wydr a awgrymir. Mae ffrâm ddur yn cynnal y dwylo ac yn cynrychioli ffrâm y ffenestr.

“Mae’r ffrâm a’r dwylo wedi’u gosod ar ddarn mawr o dywodfaen glas pennant Cymreig. Mae’r plinth carreg hwn wedi’i drwytho â sawl ystyr, sy’n darlunio difrifoldeb y pandemig a gwytnwch a stoiciaeth cryf y Cymry a’r staff rheng flaen, yn lleol ac yn genedlaethol.”

Dywedodd y fydwraig Sharon Geggus: “Roedd fy mhrofiad fel claf COVID yn llawer llai brawychus oherwydd y staff oedd yn gofalu amdanaf yn ystod fy arhosiad yn yr ysbyty. Doeddwn i ddim yn gallu gweld fy nheulu, ond roedd y staff yn anhygoel ac yn gofalu amdanaf mor dda. Fe wnaethant gymryd yr amser i sgwrsio â mi a’m cadw mewn cysylltiad â’m teulu pryd bynnag y bo modd.

“I mi, mae’r ardd hon yn lle y gall staff ac ymwelwyr ddod i gael seibiant, a chymryd anadl ddofn. Lle i gasglu eu meddyliau yn ystod sifft brysur neu wrth ymweld â pherthynas neu ffrind. Lle i fyfyrio ar y sefyllfa o’u cwmpas. Lle a fydd yn atgoffa staff o’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Bu’n fraint helpu i ddatblygu’r ardd hon yn ardal awyr agored mor ystyrlon i gleifion a staff ei mwynhau.

“Mae’r ardd newydd ei phlannu; ymhen amser bydd y planhigion yn llenwi ac yn ffynnu ac yn creu profiad synhwyraidd bendigedig sy’n cynnwys cyffwrdd, symudiad, arogl a lliw. Y cynllun lliw yw porffor meddal, lelog a gwyn ymhlith planhigion bythwyrdd i greu gardd heddychlon a thawel lle bydd cleifion, staff ac ymwelwyr Ysbyty Tywysog Philip yn gallu elwa am flynyddoedd i ddod.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Gwledig Llanelli, Welsh Guards Rugby Reunion Club ac Eleanor James Air Raise am eu rhoddion hael i’r ardd, a phawb arall sydd wedi rhoi.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG yn lleol, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle